Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Casgliadau gwastraff swmpus


Summary (optional)
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar gyfer eitemau mwy fel dodrefn, matresi ac offer trydanol.
start content

Gellir mynd a’r rhan fwyaf o eitemau yn rhad ac am ddim i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Faint fydd y gost?

Cost y casgliadau yw £30.25 am hyd at bedwar eitem (yn cynnwys nwyddau gwynion).  Wrth archebu casgliad, rhaid i chi gael rhestr o'r holl eitemau rydych am i ni eu casglu – gallwch archebu uchafswm o 4 eitem.  Ni fyddwn yn casglu unrhyw eitemau nad ydych wedi eu nodi.

Ein diffiniad o ‘eitem swmpus’ yw rhywbeth y gall dau swyddog casglu ei godi heb ddefnyddio unrhyw offer codi.

Enghreifftiau o eitemau y gallwch drefnu iddynt gael eu casglu

  • Dodrefn megis soffas, cadeiriau, byrddau, cypyrddau dillad
  • Nwyddau trydanol mawr fel setiau teledu, peiriannau torri gwair, cyfrifiaduron neu eitemau eraill na fyddent yn ffitio yn eich bag pinc Crest ar gyfer casglu o ymyl y palmant
  • Gwlâu – sylwch fod pennau gwlâu, fframiau gwely a matresi yn cael eu cyfrif fel eitemau ar wahân
  • Drysau mewnol
  • Nwyddau gwyn fel oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau sychu dillad, peiriannau golchi

Bydd rhai eitemau mawr iawn yn cyfrif fel dwy eitem.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Soffas cornel
  • Gwlâu trydan y gellir eu haddasu (mae gwely sengl yn cyfri fel dwy eitem, a gwely dwbl yn cyfri fel tair eitem)

Enghreifftiau o eitemau na fyddwn yn eu casglu

  • Gwastraff DIY / Dymchwel fel rwbel, brics, priddoedd, byrddau plastr
  • Eitemau neu ddeunyddiau sy'n weddill o brosiectau DIY megis swît ystafelloedd ymolchi, cypyrddau cegin, ffenestri neu ddrysau allanol.  Os hoffech chi daflu'r math yma o eitem, gallwch eu cymryd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (codir tâl), llosgi sgip, neu ofyn i'ch crefftwr fynd â nhw gyda nhw.
  • Deunydd ailgylchu cyffredinol y cartref neu wastraff cyffredinol yr ydym yn casglu fel rhan o’ch gwasanaeth casglu gwastraff y cartref rheolaidd
  • Gwastraff Gardd
  • Gwastraff peryglus fel asbestos, diesel/petrol neu olew tanwydd arall, neu gynhwyswyr tanwydd
  • Deunyddiau ffrwydrol megis ffrwydron, tân gwyllt neu fflachiadau morol
  • Oergelloedd neu rewgelloedd nad ydynt yn wag (tynnwch unrhyw fwyd neu eitemau eraill allan cyn i ni gasglu os gwelwch yn dda)
  • Carpedi (gallwch fynd â charped i un o’r Safleoedd Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref yn rhad ac am ddim, yn amodol ar rai cyfyngiadau, neu gallwch ofyn i bwy bynnag sy’n gosod eich carped newydd fynd â’r hen un ymaith)
  • Eitemau mawr iawn fel pianos, byrddau pŵl, oergelloedd/rhewgelloedd steil Americanaidd masnachol neu fawr
  • Unrhyw eitemau y mae angen offer codi arbenigol, neu na fyddent efallai yn ffitio yn y cerbyd casglu

Rydym yn mynd ag eitemau i’n Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre i’w  prosesu, felly os yw eich eitem wedi ei gyfyngu/gwahardd dan ein Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yna ni fyddwch yn gallu archebu casgliad ar ei gyfer.

Sut ydw i’n archebu casgliad?

Gallwcharchebu casgliad gwastraff swmpus ar-lein gan ddefnyddio ein porth talu. 
Dewiswch yr opsiwn cywir ar gyfer eich casgliad a thalu amdano.  Bydd ein partneriaid casglu, Crest, yn cysylltu â chi i gadarnhau dyddiad cyfleus. Gallwch hefyd ffonio’r Tîm Cyngor Amgylcheddol ar 01492 575337, e-bost affch@conwy.gov.uk neu cysylltwch â ni ar-lein.

Os byddwch angen newid eich archeb, gwnewch hynny ddim hwyrach na 2 ddiwrnod gwaith cyn eich dyddiad casglu drwy ffonio ein tîm cyngor i gwsmeriaid ar 01492 575337.

Pa mor fuan fyddwch chi’n casglu fy eitemau?

Unwaith y bydd yr eitemau wedi cael eu harchebu ac wedi’u talu amdanynt, bydd ein Tîm Casgliadau yn eich ffonio i roi dyddiad casglu i chi. Rydym yn anelu i gasglu o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn taliad.

Beth sydd angen i mi ei wneud ar fy niwrnod casglu?

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod yr eitemau tu allan i’ch eiddo erbyn 8am ar ddiwrnod eich casgliad.  Os yw’r tywydd yn wael, gorchuddiwch yr eitemau os gallwch chi.

Bydd yr holl eitemau yn cael eu casglu rhwng 8am a 5pm.  Sylwer na allwn roi amser penodol. Nid oes angen i chi aros i mewn ar gyfer y tîm casglu os yw eich eitemau yn hawdd i’w gweld ac yn hawdd mynd atynt.

Pwysig:  Ni fydd y timau casglu yn mynd i mewn i'ch eiddo i nôl yr eitemau, ac nid ydynt yn gymwys i ddatgysylltu unrhyw wasanaethau.  Os oes angen cymorth arnoch i ddod â'r eitemau o flaen eich eiddo, dylech ofyn i berthynas neu ffrind i'ch helpu i gael eich eitemau yn barod i'w casglu.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Casgliadau Gwastraff Swmpus, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni ar-lein.

end content