Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymorth Cyntaf yn y Gweithle - Brys (Gwasanaethau Cymdeithasol)


Summary (optional)
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen cymhwyster Cymorth Cyntaf. Bydd y dystysgrif yn ddilys am 3 blynedd.
start content

Oherwydd bod nifer y lleoedd yn brin, gallwn ond dderbyn un archeb fesul sefydliad ar y cwrs hwn.

Dyddiadau

  • 2024:  1 Mai,  5 Mehefin,  17 Gorffennaf,  22 Awst,  25 Medi,  25 Hydref,  19 Tachwedd,  6 Rhagfyr
  • 2025:  17 Ionawr,  10 Chwefror,  10 Mawrth

Manylion y cwrs

  • Amser:  9:15am tan 4:15pm  (9am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr:  Gwasanaethau Hamdden
  • Gwasanaethau targed:  Sector gofal cymdeithasol
  • Grŵp targed:  Staff gofal uniongyrchol o wasanaethau a gomisiynir;  staff gofal a chefnogaeth o'r holl wasanaethau cymdeithasol;  staff cefnogaeth gymunedol

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae'r cwrs yn dysgu sgiliau achub bwyd ac yn cynnwys:

  • Deall rôl y cymhorthydd cyntaf, gweithredu'n ddiogel, traws heintiad, cofnodi digwyddiadau, offer sydd ar gael
  • Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n anymwybodol
  • Adfywio'r galon a'r ysgyfaint (CPR) rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n mygu, wedi ei anafu neu sy'n dioddef o sioc
  • Darparu cymorth cyntaf priodol ar gyfer mân anafiadau, mân doriadau, sgryffiniadau, mân losgiadau a sgaldiadau
  • Bydd asesiadau ffurfiannol ac adolygol yn cael eu cynnal yn ystod y cwrs a byddant yn gwirio a yw'r amcanion dysgu wedi eu cyflawni

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb gael hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â’r Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi cael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content