Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gweinyddu Meddyginiaeth mewn Gofal Cymdeithasol


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

Sesiynau bore, 9:30am tan 1pm

  • 2024:  10 Mai,  19 Mehefin,  5 Gorffennaf,  4 Medi,  6 Tachwedd,  3 Rhagfyr,  8 Ionawr
  • 2025:  6 Mawrth

Sesiynau prynhawn, 1pm tan 4:30pm

  • 2024:  14 Hydref
  • 2025:  12 Chwefror

Manylion y cwrs

  • Lleoliad:  Ar-lein trwy Zoom
  • Hyfforddwr:  Tim Dallinger, Social Care Consultants Ltd
  • Gwasanaethau targed:  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn
  • Grŵp targed:  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae’r cyrsiau wedi’u dylunio i hybu egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 a bydd yn cynnwys:

  • Llais a rheolaeth yr unigolyn
  • Atal ac ymyrraeth gynnar - gan gynnwys adnabod arwyddion a symptomau gwallau, sgil effeithiau a llai o effeithiolrwydd.
  • Lles – cefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain
  • Cyd-gynhyrchu – annog unigolion i gyfrannu mwy at weinyddu eu meddyginiaeth

Mae’r cyrsiau hefyd wedi eu dylunio i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r RISCA 2016 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddio 2017 sy’n dod i rym ar 2 Ebrill 2018.

Bydd y cyrsiau’n canolbwyntio ar y polisi meddyginiaeth presennol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

  • Nodi deddfwriaeth allweddol sy’n ymwneud â rheoli meddyginiaeth.
    • Deddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
    • Canllawiau statudol ar ddiwallu’r rheoliadau
    • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
    • NICE Rheoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal [SC1]
    • NICE Rheoli meddyginiaethau ar gyfer oedolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn y gymuned [NG67]
  • Diffinio termau allweddol:
    • Atgoffa
    • Cynorthwyo
    • Gweinyddu
  • Diffinio’r term “meddyginiaeth” ac egluro’r gwahanol fathau o feddyginiaethau a sut maent yn gweithio
  • Archwilio ffordd o weinyddu ac amser gweithredu
  • Egluro termau gwrtharwydd a sgil effaith a'r adeg pan fo'r rhain yn fwyaf tebygol
  • Disgrifio pa wybodaeth sy’n gorfod bod ar:
    • Bresgripsiwn
    • Label meddyginiaeth
    • Siart MAR
  • Rhestru 5 hawl gweinyddu meddyginiaeth
  • Arddangos sut i gwblhau siart MAR yn gywir
  • Dangos sut i gwblhau gwybodaeth rheoli stoc yn gywir ar siart MAR
  • Disgrifio sut i gefnogi pobl gyda meddyginiaeth drwy:
    • Atgoffa
    • Cynorthwyo
    • Gweinyddu
  • Nodi’r mathau mwyaf cyffredin o wallau meddyginiaeth, pam bod y rhain yn digwydd a sut i’w hosgoi
  • Disgrifio’r broses ar gyfer dychwelyd meddyginiaeth
  • Egluro pwrpas a phroses archwiliadau meddyginiaethau gan gynnwys archwiliadau siart MAR
  • Arddangos sylfaen wybodaeth drwy arholiad aml-ddewis
end content