Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Terfyn Cyflymder 20mya – eithriadau

Terfyn Cyflymder 20mya – eithriadau


Summary (optional)
start content

Terfyn Cyflymder 20mya – eithriadau

O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd trefol ar draws Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya i wneud strydoedd yn fwy diogel trwy leihau tebygolrwydd o wrthdrawiadau - a marwolaeth neu niwed ohonynt. Bydd hyn hefyd yn gwneud y strydoedd yn fwy diogel ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar olwynion.

Bydd y newidiadau yn digwydd ar ffyrdd lle bydd goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath ar wahân, a leolir fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig y mae pobl yn eu defnyddio’n aml.

Nid yw’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yr holl ffyrdd yn newid i 20mya, bydd rhai yn aros yn 30mya ac yn cael eu hadnabod fel yr eithriadau.

Mae pob cyngor yng Nghymru yn ystyried pa strydoedd yn eu hardal a ddylai aros yn 30mya, yn dilyn meini prawf Llywodraeth Cymru.

Mae nifer o ffyrdd yng Nghonwy a all gael eu heithrio o’r terfyn cyflymder newydd.

I bennu eithriad i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i ni gael achos clir a rhesymegol sy’n dangos bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel.

Rydym wedi asesu ffyrdd cyfyngedig ar draws y sir ac wedi canfod ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithriadau. Mae’r rhestr o ffyrdd wedi cael ei rhannu gyda’r holl Gynghorwyr, a gofynnwyd iddynt ganfod ffyrdd eraill yn eu wardiau le maent yn teimlo bod eithriadau yn gymwys. 

Gallwch weld yr eithriadau arfaethedig ar Fap Data Cymru  gyda mwy o wybodaeth yn adran Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig ar ein gwefan. 
Gallwch hefyd wedi copïau o’r cynigion mewn copi papur yn ein swyddfeydd Coed Pella.

Mwy o wybodaeth:  Terfyn Cyflymder 20mya - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Amryw Ffyrdd - Terfynau Cyflymder - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 27/07/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content