Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Terfyn Cyflymder 20mya


Summary (optional)
Bydd terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd preswyl yn dod i rym o 17 Medi 2023.
start content

O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd trefol le mae pobl yn byw, gweithio ac yn chwarae yng Nghonwy ac ar draws Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya i wneud strydoedd yn fwy diogel trwy leihau tebygolrwydd o wrthdrawiadau - a marwolaeth neu niwed ohonynt. Bydd hyn hefyd yn gwneud y strydoedd yn fwy diogel ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar olwynion (sef teithio llesol).

Bydd y newidiadau yn digwydd ar ffyrdd lle bydd goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath ar wahân, a leolir fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig y mae pobl yn eu defnyddio’n aml.

Eithriadau

Nid yw’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yr holl ffyrdd yn newid i 20mya, bydd rhai yn aros yn 30mya ac yn cael eu hadnabod fel yr eithriadau. Mae pob cyngor yng Nghymru yn ystyried pa strydoedd yn eu hardal a ddylai aros yn 30mya, yn dilyn meini prawf Llywodraeth Cymru.

Gallwch weld yr eithriadau ar Fap Data Cymru gyda mwy o wybodaeth yn adran Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar ein gwefan.

Cwestiynau Cyffredin

Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru a pham ei bod yn cael ei chyflwyno ledled Cymru?

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

A fydd pob ffordd yn Sir Conwy yn newid i 20mya ar 17 Medi?

Ar 17 Medi 2023, bydd pob ffordd gyfyngedig yn newid i 20mya.

Beth yw ffordd gyfyngedig?

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw derfyn cyflymder o 30mya a system oleuadau stryd (diffinnir hyn fel tri neu fwy o golofnau goleuadau o fewn 183m neu 200 llath).

Mae gan bob Cyngor yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar holl ffyrdd cyfyngedig ar 17 Medi 2023.

All Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy anwybyddu’r meini prawf 20mya a nodir gan Lywodraeth Cymru?

Na. Ni all cynghorau lleol ddiystyru meini prawf yn gyfreithiol wrth bennu cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd lleol. Aseswn bob terfyn cyflymder yn ddiduedd ar sail meini prawf cenedlaethol a osodir gan Lywodraeth Cymru.

A fydd unrhyw ffyrdd yn aros yn 30mya? A ymgynghorir â phreswylwyr am hyn?

Mae nifer o ffyrdd yng Nghonwy a all gael eu heithrio o’r terfyn cyflymder newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi meini prawf eithriadau sy’n nodi sut gall awdurdodau priffyrdd osod disgwyliadau mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

I bennu eithriad i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i ni gael achos clir a rhesymegol sy’n dangos bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel.

Rydym wedi asesu ffyrdd cyfyngedig ar draws y sir ac wedi canfod ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithriadau. Mae’r rhestr o ffyrdd wedi cael ei rhannu gyda’r holl Gynghorwyr, a gofynnwyd iddynt ganfod ffyrdd eraill yn eu wardiau le maent yn teimlo bod eithriadau yn gymwys.

Gallwch weld yr eithriadau arfaethedig ar Fap Data Cymru gyda mwy o wybodaeth yn adran Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig ar ein gwefan.

Rhaid i’r Cyngor hysbysebu’r eithriadau yn ffurfiol fel rhan o broses ymgynghori cyfreithiol ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.

Bydd hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi yn y wasg leol a’u gosod ar byst lamp ar y ffyrdd a effeithir. Gallwch hefyd wedi copïau o’r cynigion mewn copi papur yn ein swyddfeydd Coed Pella.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i breswylwyr wneud sylwadau ar y ffyrdd hyn sy’n aros yn 30mya yn hytrach na newid i 20mya. Ar y cyfan, ni ymgynghorir â phreswylwyr ar y newid i 20mya, gan ei fod yn benderfyniad gan Lywodraeth Cymru a wnaed gan y Senedd yng Ngorffennaf 2022.

A fydd arwyddion yn cael eu gosod rhwng y prif arwyddion i atgoffa pobl eu bod mewn ardal 20mya?

Na. Rydym eisoes wedi paratoi arwyddion newydd ar draws y Sir yn barod ar gyfer 17 Medi.

A fydd arwyddion ategu i atgoffa pobl eu bod nhw mewn ardal 20mya?

Ni fydd arwyddion ategu’n cael eu gosod ar ffyrdd cyfyngedig ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd ym mis Medi 2023.

Bydd arwyddion 20mya newydd yn cael eu gosod ar bob pen i’r ardal cyfyngu cyflymder. Yn yr un modd â chyfyngiadau 30mya ar ffyrdd cyfyngedig, ni fydd angen arwyddion ategu lle bydd goleuadau stryd. Bydd y goleuadau stryd ar hyd y ffordd rhwng yr arwyddion hyn yn atgoffa gyrwyr eu bod nhw mewn ardal 20mya.

Mae gennym ni dwmpathau cyflymder ar hyd fy ffordd, a cheir gwared ar y rhain pan fydd terfyn cyflymder 20mya yn cael ei gyflwyno?

Mae mesurau gostegu traffig presennol, fel twmpathau cyflymder, wedi’u cyflwyno mewn ardaloedd penodol i wella diogelwch ar y ffyrdd. Ni fydd terfyn cyflymder 20mya yn tynnu’r angen am gynlluniau gostegu traffig. Yn yr un modd â holl gynlluniau diogelwch, byddwn yn parhau i adolygu pa mor effeithio ydynt.

A fyddwch yn ychwanegu twmpathau cyflymder ar ffyrdd preswyl er mwyn helpu i orfodi’r terfyn cyflymder 20mya newydd?

Nid oes gennym gynlluniau i ychwanegu twmpathau cyflymder ar holl ffyrdd 20mya. Byddwn yn ystyried materion diogelwch ar y ffordd fesul achos.

Pwy sy’n talu am gyflwyno 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir Conwy?

Bydd yr holl gostau sydd ynghlwm â gweithredu 20mya ledled Cymru yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy grant i gynghorau lleol.

Pwy fydd yn gorfodi’r terfynau cyflymder 20mya newydd?

Bydd yr Heddlu yn parhau i fod yn gyfrifol am orfodi terfynau cyflymder. Os ydych chi’n pryderu am oryrru yn eich cymuned, gallwch ofyn am orfodi cyflymder drwy wefan GanBwyll.

end content