Ymgynghori ar y Cynllun Cydraddoldeb
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llunio drafft o’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-2028, ac mae’n gofyn i’r cyhoedd ddarparu adborth ar y ddogfen fel y gall cymunedau fod o gymorth i siapio’r cynllun.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn egluro ymrwymiad a chymhelliad y Cyngor i fod yn sefydliad sy’n ceisio gwella bywydau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig*. Mae’n dangos sut fydd y Cyngor yn cyfrannu tuag at hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft yn nodi’r prif flaenoriaethau y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt am y pedair blynedd nesaf, ac mae’n cynnwys camau gweithredu o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Democratiaeth a Llywodraethu: “Mae’r Cynllun hwn yn ymwneud â thrin pawb fel unigolion. Rydym eisiau cynorthwyo i greu cymdeithas fwy cynhwysol, gan hybu cyfle cyfartal a mynd i’r afael â gwahaniaethu. Gwyddom na allwn gyflawni hyn ar ein pennau ein hunain, a byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau a sefydliadau eraill i greu newid gwirioneddol ac ystyrlon; rydym yn gwrando ac rydym eisiau clywed eich syniadau.”
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw 2 Chwefror 2024. Yn dilyn unrhyw ddiweddariadau i’r cynnwys, cyflwynir y Cynllun i Bwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau i’w drafod ac er mwyn i’r Cabinet ei gymeradwyo maes o law.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028: Ymgynghoriad - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Y naw nodwedd warchodedig yw:
Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Wedi ei bostio ar 21/12/2023