Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Damweiniau yn y gwaith


Summary (optional)
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau roi gwybod am ddamweiniau penodol, digwyddiadau a chlefydau sy'n gysylltiedig â gwaith.
start content

Mae Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR) yn gofyn am roi gwybod am rai mathau o anafiadau, clefydau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith, i'r awdurdod gorfodi ar gyfer iechyd a diogelwch (gall hwn fod yn Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch).

Pwy ddylai roi gwybod?

Dim ond 'personau cyfrifol' yn cynnwys cyflogwyr, unigolion hunangyflogedig a phobl sy'n rheoli adeilad gwaith a ddylai gyflwyno adroddiadau o dan RIDDOR. Os ydych yn weithiwr neu'n aelod o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad, cyfeiriwch at ein tudalen Rhoi gwybod am fater iechyd a diogelwch.

Beth sydd angen ei adrodd?

  • Marwolaeth neu anafiadau penodol i weithiwr neu berson hunangyflogedig sy'n gweithio yn eich adeilad
  • Aelod o’r cyhoedd yn marw neu’n mynd i’r ysbyty

Rhaid rhoi gwybod am y rhain yn ddi-oed (fel arfer dros y ffôn) a’i ddilyn i fyny gyda ffurflen adrodd ar-lein o fewn 10 diwrnod.

  • Gweithiwr neu berson hunangyflogedig sy'n gweithio yn eich adeilad yn cael anaf sy’n para dros saith niwrnod
  • Clefyd a ddioddefwyd gan weithiwr sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith
  • Digwyddiad Peryglus nad yw'n arwain at anaf ond a allai yn amlwg fod wedi gwneud hynny.

Mae'n rhaid i'r rhain gael eu hadrodd o fewn 10 diwrnod.

Sut i roi gwybod

Gellir rhoi gwybod am yr holl ddigwyddiadau ar-lein ond mae gwasanaeth ffôn yn parhau i fod ar gael ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau angheuol a mawr yn unig - ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Digwyddiadau ar 0345 300 9923.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Unwaith y bydd y digwyddiad neu ddamwain yn cael ei adrodd ar-lein, caiff ei ddyrannu yn awtomatig i'r awdurdod gorfodi priodol. Yna efallai y bydd rhywun yn cysylltu â chi i gael manylion pellach am y digwyddiad neu ymweliad i'ch eiddo i ymchwilio ymhellach. Ni fydd pob damwain a adroddir yn cael ei ymchwilio gan yr awdurdod, yn dibynnu ar y natur a difrifoldeb.

end content