Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cais am Drwydded Bersonol


Summary (optional)
Mae trwyddedau personol yn caniatáu deiliaid i werthu alcohol i'w yfed ar unrhyw safle neu oddi ar unrhyw safle gyda thrwydded safle, ac i gael enwebiad fel goruchwyliwr dynodedig safle.
start content

Sut i wneud cais

I fod yn gymwys am drwydded bersonol mae'n rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r meini prawf canlynol. Rhaid i'r awdurdod trwyddedu roi'r drwydded os:

  • yw’r ymgeisydd yn 18 oed neu drosodd
  • â hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
  • nad oes unrhyw drwydded bersonol a gedwir ganddo wedi cael ei fforffedu o fewn y cyfnod o bum mlynedd cyn gwneud y cais
  • yw'n meddu ar gymhwyster trwyddedu achrededig, neu'n berson o ddisgrifiad rhagnodedig
  • nad yw wedi’i gael yn euog o unrhyw drosedd berthnasol neu drosedd tramor

Os yw'r ymgeisydd yn bodloni'r holl feini prawf hyn, bydd y drwydded yn cael ei chaniatáu.  Os nad oes unrhyw un o'r tri maen prawf cyntaf yn cael eu bodloni, rhaid i'r awdurdod trwyddedu wrthod y cais. Rhaid i'r awdurdod trwyddedu roi gwybod i brif swyddog yr heddlu ar gyfer ei ardal os yw'n ymddangos bod ymgeisydd wedi’i gael yn euog o unrhyw drosedd berthnasol neu dramor, fel y nodir uchod.

Ffioedd

 TrwyddeduCost
Rhoi Trwydded Bersonol £37.00
Newid manylion / Trwydded Goll  £10.50


Cymhwysedd

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno:

  • Ffurflen gais i'r awdurdod trwyddedu perthnasol.
  • Dau ffotograff maint pasbort (rhaid cymeradwyo un ohonynt)
  • Y ffi ymgeisio
  • Cymhwyster trwyddedu perthnasol er enghraifft tystysgrif arholiad BII Lefel II.
  • Tystysgrif euogfarn troseddol (dim mwy na 1 mis oed)

Os yw'n ymddangos bod euogfarnau am unrhyw droseddau perthnasol neu dramor, bydd yr awdurdod trwyddedu’n rhoi rhybudd i brif swyddog yr heddlu ar gyfer yr ardal. Os na fydd yr heddlu yn gwneud unrhyw wrthwynebiadau o fewn cyfnod o 14 diwrnod, mae'n rhaid i'r drwydded gael ei rhoi.

Mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu ganiatáu'r cais os yw'r holl feini prawf yn cael eu bodloni oni bai bod gwrthwynebiad yn cael ei dderbyn gan Brif Swyddog yr heddlu.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Mae’r Drwydded Bersonol yn drwydded amhenodol, nid oes angen ei hadnewyddu. Felly, caiff ei mewnfudo i gadw eich manylion yn gyfredol.

Mae dolen i wefan Gov.uk isod o ddarparwyr cymwysterau achrededig  Darllenwch y nodiadau arweiniol ar ddiwedd y ffurflen Euogfarnau Troseddol. Mae angen datgan unrhyw euogfarn perthnasol, gallai hyn effeithio ar  eich addasrwydd i fod yn drwyddedai.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Trwyddedu 2003

Prosesu ac Amserlenni

Unwaith y bydd yr holl ffurflenni perthnasol wedi’u llenwi, bydd y cais yn cael ei brosesu o fewn 5 diwrnod  

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Manylion cyswllt: 

Trwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk
Dros y Ffôn: 01492 576626
Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00 i 12:30

Trwy'r post:

Adran Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN


Darparwyr cymwys achrededig: trwydded bersonol i werthu alcohol

Hysbysiad newid enw/cyfeiriad

end content