Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhybudd Digwyddiad Dros Dro


Summary (optional)
Mae arnoch angen Rhybudd Digwyddiad Dros Dro os ydych chi’n dymuno cynnal gweithgaredd trwyddedadwy ar safle didrwydded.
start content

Mae arnoch angen Rhybudd Digwyddiad Dros Dro os ydych chi’n dymuno cynnal y gweithgaredd trwyddedadwy hyn ar safle didrwydded:

  • gwerthu alcohol
  • gweini alcohol i aelodau clwb preifat
  • darparu adloniant, e.e. cerddoriaeth, dawnsio neu ddigwyddiadau chwaraeon dan do
  • gweini bwyd poeth neu ddiod rhwng 11pm a 5am

Cyn i chi wneud cais

Darllenwch y wybodaeth:


Rhybudd Digwyddiad Dros Dro: Nodiadau Canllaw

Datganiad Polisi Trwyddedu (Dogfen PDF)

Mae’n rhaid i chi wirio:

  • Os oes angen arnoch ganiatâd arall, megis caniatâd gan berchennog y tir i ddefnyddio’r safle
  • Os oes cyfyngiadau eraill, megis cyfyngiadau ar ganiatâd cynllunio neu gyfyngiadau ar eich prydles
  • Na fydd y Rhybudd Digwyddiad Dros Dro yn gwrth-wneud y caniatâd hwnnw a’ch bod yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda phob cyfyngiad.

Pryd i wneud cais

  • Mae’n rhaid i ni dderbyn eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro Safonol 10 diwrnod gwaith o leiaf cyn eich digwyddiad.
  • Gallwn dderbyn cais am rybudd dim hwyrach na 5 diwrnod gwaith cyn eich digwyddiad, ond bydd hwn yn Rybudd Digwyddiad Dros Dro Hwyr (TEN Hwyr).
  • Mae’r broses a’r ffurflenni yr un fath ar gyfer Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro Safonol a Hwyr.


Ffioedd

Rhybudd Digwyddiad Dros Dro - £21.00

Rhybudd Digwyddiad Dros Dro Hwyr - £21.00


Prosesu ac amserlenni

  • Byddwn yn prosesu Rhybudd Digwyddiad Dros Dro ar y diwrnod gwaith nesaf a bydd hyn yn cymryd 10 diwrnod gwaith. Os ydym ni’n derbyn gwrthwynebiad, byddwn yn dyrannu rhybudd gwrthwynebu sy’n amlinellu’r gwrthwynebiad. Gallwch apelio i’r Llys Ynadol lleol o fewn 21 diwrnod, ond nid o fewn 5 diwrnod i’r digwyddiad.
  • Byddwn yn prosesu Rhybudd Digwyddiad Hwyr ar y diwrnod gwaith nesaf a bydd hyn yn cymryd 5 diwrnod gwaith. Os ydym ni’n derbyn gwrthwynebiad, byddwn yn dyrannu rhybudd gwrthwynebu sy’n amlinellu’r gwrthwynebiad ac ni fydd y digwyddiad yn cael ei ganiatáu.  

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Cadwch eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man diogel yn y digwyddiad.
  • Mae’n rhaid i chi arddangos copi o’r Rybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man amlwg yn yr eiddo.
  • Os ydych chi’n gwneud cais drwy’r post, mae’n rhaid i chi anfon dau gopi o’r rhybudd i Adain Drwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Iechyd Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru.


Deddfwriaeth ac amodau

Deddf Trwyddedu 2003

Cysylltwch â ni:

E-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk

Ffôn: 01492 576626

Dydd Llun i ddydd Gwener
10.00am i 12.30pm

Post

Yr Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

end content