Sut i wneud cais
   
   
   
   
Rhaid anfon cais i awdurdod trwyddedu'r ardal lle mae'r eiddo wedi'i leoli. Mae gofyn i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi rhybudd o'r cais i unrhyw berson neu awdurdod cyfrifol arall.
Rhaid i geisiadau fod mewn fformat penodol a rhaid cynnwys unrhyw ffi sy'n ofynnol gyda'r cais. Hefyd, mae angen rhaglen weithredu, cynllun o'r eiddo a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr yr eiddo (ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy). Bydd rhaglen weithredu yn cynnwys y manylion canlynol:
- y gweithgareddau trwyddedadwy 
- yr amseroedd y bydd y gweithgareddau'n digwydd
- unrhyw amseroedd eraill y bydd y safle ar agor i'r cyhoedd
- yn achos ymgeiswyr sy'n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded
- gwybodaeth mewn perthynas â goruchwyliwr y safle
- p'un a fwriedir i unrhyw alcohol a fydd yn cael werthu gael ei yfed ar y safle, oddi arno, neu'r ddau
- y camau y bwriedir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
- unrhyw wybodaeth ofynnol arall
Ffioedd
Mae’r ffi ar gyfer y cais yn dibynnu ar werth ardrethol annomestig cenedlaethol yr eiddo.
     
| Cais | Band A Dim - £4,300
 
 | Band B £4,301 – £33,000
 
 | Band C £33,001 – £87,000
 | Band D £87,001 – £125,000
 
 | Band E £125,001
 +
 
 | 
|---|
| Cais am Drwydded Eiddo* neu Amrywiad i Drwydded Eiddo | £100 | £190 | £315 | £450 | £635 | 
| Mân Amrywiad | £89 | £89 | £89 | £89 | £89 | 
| Adnewyddiad blynyddol | £70 | £180 | £295 | £320 | £350 | 
 
*mae ffioedd ychwanegol ar gyfer ceisiadau am drwydded eiddo, a ffi flynyddol ar gyfer digwyddiadau ar raddfa eithriadol o fawr (5000+); cysylltwch â'r swyddfa drwyddedu.
 
| Ffioedd eraill | Pris | 
|---|
| Os bydd trwydded safle neu grynodeb yn cael ei dwyn neu'n mynd ar goll | £10.50 | 
| Rhoi gwybod am newid cyfeiriad | £10.50 | 
| Cais i amrywio trwydded i ddynodi unigolion yn oruchwyliwr eiddo | £23.00 | 
| Cais i drosglwyddo trwydded eiddo | £23.00 | 
| Hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth ac ati deiliad y drwydded | £23.00 | 
 
Rhaid i'r awdurdod trwyddedu ganiatáu'r cais, a all fod yn destun amodau, cyn belled ag nad oes unrhyw sylwadau yn dod i law. Rhaid cynnal gwrandawiad os ceir unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais. Os cynhelir gwrandawiad, gellir caniatáu'r drwydded neu ei chaniatáu gydag amodau ychwanegol, gellir gwahardd gweithgareddau trwyddedadwy a restrir yn y cais neu gellir gwrthod y cais.
Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno hysbysiad o'i benderfyniad i'r ymgeisydd, unrhyw unigolyn sydd wedi cyflwyno sylwadau perthnasol ac i bennaeth yr heddlu.
Deddfwriaeth ac Amodau
Deddf Trwyddedu 2003
Prosesu ac Amserlenni
Rhaid i ni ddelio gyda'ch cais o fewn 28 diwrnod a gwirio bod hysbysiad cyhoeddus yn cael ei arddangos; efallai y byddwn yn archwilio'r eiddo cyn i'ch cais gael ei ystyried.
Ar ôl y 28 diwrnod, cyn belled ag nad oes unrhyw sylwadau wedi dod i law, ystyrir bod y drwydded wedi cael ei chaniatáu.  
Os daeth sylwadau i law ac nad oes modd cyfryngu, byddwn yn trefnu Gwrandawiad yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio. Gall y Pwyllgor ganiatáu'r Dystysgrif, ei chaniatáu gydag addasiadau neu wrthod y cais.  
Dulliau Apelio / Unioni:
- Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad.
- Rhaid apelio i'r llys ynadon o fewn 21 diwrnod i'r penderfyniad.
- Gall deilydd trwydded hefyd apelio yn erbyn penderfyniad i roi amodau ar dystysgrif neu i wahardd unrhyw weithgaredd clwb.
Manylion cyswllt:
Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Bae Colwyn,
LL29 0GG
Gweler hefyd