Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Hapchwarae Cais am Drwydded Safle Hapchwarae

Cais am Drwydded Safle Hapchwarae


Summary (optional)
Pan fydd unigolyn neu gwmni yn bwriadu cynnig hapchwarae y mae angen trwydded weithredu ar ei gyfer, ac os yw ar safle, bydd angen i'r unigolyn neu'r cwmni hefyd wneud cais am drwydded safle.
start content

Sut i wneud cais

Gall cais am drwydded safle hapchwarae gael ei wneud gan unrhyw bobl (sy'n cynnwys cwmnïau neu bartneriaethau):

  • sydd dros ddeunaw oed
  • sydd â'r hawl i feddiannu'r safle
  • sydd â thrwydded gweithredu sy'n eu galluogi i wneud y gweithgaredd arfaethedig


Gyda'r cais, mae'n rhaid cyflwyno:

  • ffurflen gais
  • y ffi ar ei gyfer
  • y dogfennau angenrheidiol (hynny yw cynllun o'r safle).

Ffioedd

Math Casino rhanbartholCasino mawrCasino bachTrwydded safle bingoTrwydded safle   canolfan hapchwarae i oedolion Trwydded safle betio   (Traciau)Trwydded safle betio   (arall)Trwydded safle   adloniant teulu
Trosiannol Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol £240 £240 £240 £240 £240
Ar frys                
Trosiannol Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol £1,400 £800 £1,000 £1,200 £800
Dim brys                
Cais newydd £15,000 £10,000 £8,000 £3,500 £2,000 £2,500 £3,000 £2,000
Ffi flynyddol £15,000 £10,000 £5,000 £800 £800 £800 £480 £600
Ffi amrywiad £7,500 £5,000 £4,000 £1,400 £800 £1,000 £1,200 £800
Ffi drosglwyddo £6,500 £2,150 £1,800 £960 £960 £760 £960 £760
Ffi ailbenodi £6,500 £2,150 £1,800 £1,200 £1,200 £950 £1,200 £950
Datganiad dros dro £15,000 £10,000 £8,000 £3,500 £2,000 £2,500 £3,000 £2,000
Datganiad dros dro (deiliaid) £8,000 £5,000 £3,000 £1,200 £1,200 £950 £1,200 £950
Copi o’r drwydded £25 £25 £25 £25 £25 £25 £25 £25
Hysbysu am newid £50 £50 £50 £50 £50 £50 £50 £50

 

Cymhwyster

Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu:

  • rhybudd wedi’i leoli y tu allan i'r safle am 28 diwrnod yn olynol mewn man lle mae modd ei ddarllen yn gyfleus
  •  rhybudd mewn papur newydd neu gylchlythyr sy'n berthnasol yn lleol, ar o leiaf un achlysur o fewn deg diwrnod i wneud y cais
  • Copïau o'r cais at bob awdurdod cyfrifol o fewn saith diwrnod ar ôl i'r cais gael ei wneud.


Deddfwriaeth ac amodau

Deddf Gamblo 2005

Prosesu ac amserlenni

Mae'n rhaid i ni ddelio gyda'ch cais o fewn 28 diwrnod a gwirio bod hysbysiad cyhoeddus yn cael ei arddangos. Efallai y bydd yr adeilad yn cael ei arolygu cyn i'ch cais gael ei ystyried.

Ar ôl y 28 diwrnod, ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau wedi'u gwneud, bernir bod y drwydded yn cael ei rhoi.  

Os oes sylwadau wedi'u gwneud ac na ellir cyfryngu, bydd Gwrandawiad yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio yn cael ei drefnu. Gall y Pwyllgor ganiatáu'r Dystysgrif, caniatáu gydag addasiadau neu wrthod y cais.  

Dulliau apêl / gwneud iawn:

Rhaid i'r awdurdod trwyddedu ganiatáu'r cais, a all fod yn ddarostyngedig i amodau, ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn cael eu derbyn. Rhaid cynnal gwrandawiad os bydd unrhyw sylwadau yn cael eu gwneud mewn perthynas â'r cais. Os oes gwrandawiad, gallai'r drwydded gael ei rhoi neu ei rhoi gydag amodau ychwanegol, neu ei gwrthod.

Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno hysbysiad o'i benderfyniad i'r ymgeisydd, unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.

Byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Er budd y cyhoedd, mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Manylion cyswllt:

  • Trwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk

  • Dros y ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10.00am a 12:30pm

  • Trwy'r post:

    Yr Adain Drwyddedu
    Blwch Post 1
    Conwy
    LL30 9GN

 

Datganiad o Egwyddorion

end content