Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Hapchwarae Loterïau Cymdeithasau Bychain
start content

Sut i wneud cais

Rhaid i bob cais gael ei wneud drwy lenwi’r ffurflen gais atodedig, ynghyd â llofnod y swyddogion priodol ar delerau ac amodau neu gyfansoddiad y Gymdeithas.

Ffioedd

Trwydded Ffi 
Cais am Drwydded Loterïau Cymdeithasau Bychain  £40
Ffi Flynyddol Loterïau Cymdeithasau Bychain  £20

 

Cymhwyster

Er mwyn cymhwyso fel loteri cymdeithas fach, rhaid i'r 2 faen prawf canlynol gael eu bodloni gan gymdeithasau sy'n dymuno cofrestru:

Statws cymdeithas - mae'n rhaid i'r gymdeithas dan sylw fod yn 'anfasnachol' sy'n golygu bod yn rhaid iddi gael ei sefydlu a’i chynnal ar gyfer o leiaf un o'r dibenion canlynol:

  • at ddibenion elusennol (fel y'u diffinnir gan adran 2 o'r Ddeddf Elusennau), neu
  • at y diben o alluogi cyfranogiad mewn chwaraeon, athletau neu weithgaredd diwylliannol, neu gefnogaeth ohonynt, neu
  • at unrhyw bwrpas anfasnachol arall ar wahân i elw preifat.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Gamblo 2005

Prosesu ac Amserlenni

Dim amserlen benodol, yn dibynnu ar y Cais

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Gall y Cyngor wrthod cais i gofrestru dim ond ar ôl i'r gymdeithas gael cyfle i wneud sylwadau. Gall y rhain gael eu cymryd mewn gwrandawiad ffurfiol neu drwy ohebiaeth.

Manylion cyswllt:

Dolenni defnyddiol

Dogfennau

end content