Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Hapchwarae Rhybudd Defnydd Dros Dro

Rhybudd Defnydd Dros Dro


Summary (optional)
Mae digwyddiad ad-hoc o ran gamblo yn gofyn am rybudd digwyddiad dros dro (TUN) i'w roi i'ch awdurdod trwyddedu lleol, ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
start content

Sut i wneud cais

Gellir rhoi rhybudd defnydd dros dro i berson neu gwmni sy'n dal trwydded weithredu berthnasol yn unig, i bob pwrpas, trwydded gweithredu casino heb fod yn bell. Bydd ddim ond yn cael ei defnyddio i ganiatáu darparu cyfleusterau ar gyfer hapchwarae cyfle cyfartal, lle bwriedir i'r hapchwarae gynhyrchu un enillydd cyffredinol.

Rhaid i chi:

  • Gyflwyno copi dyblyg o'r rhybudd i'r Awdurdod Trwyddedu o leiaf deg / pum diwrnod gwaith (heb gynnwys y dyddiad cyflwyno) cyn y digwyddiad.
  • Cyflwyno copi i Brif Swyddog yr Heddlu yn yr ardal lle bydd y defnydd yn digwydd.

Bydd yr awdurdod lleol yn cydnabod derbyn y rhybudd drwy roi rhybudd i ddefnyddiwr y safle cyn diwedd y diwrnod gwaith cyntaf y derbyniwyd ef

Rhaid i'r rhybudd fod mewn fformat penodol a rhaid ei wneud gan rywun dros 18 oed a chynnwys:

  • manylion y gweithgareddau trwyddedadwy     
  • cyfnod y digwyddiad
  • yr adegau pan fydd y gweithgareddau'n digwydd yn ystod y cyfnod hwnnw
  • yr uchafswm o bobl y cynigir iddynt gael caniatâd ar y safle, unrhyw wybodaeth ofynnol arall

Os yw prif swyddog yr heddlu sy'n derbyn rhybudd yn credu y byddai'r digwyddiad yn tanseilio amcanion atal troseddu, gall roi rhybudd gwrthwynebu i'r awdurdod trwyddedu a defnyddiwr y safle, o fewn dau ddiwrnod o’i dderbyn.

Rhaid i'r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad os cyflwynir rhybudd gwrthwynebiad. Gallant roi gwrthrybudd os ydynt o'r farn ei bod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo amcan atal trosedd neu niwsans cyhoeddus. Rhaid i benderfyniad gael ei wneud o leiaf 24 awr cyn dechrau'r digwyddiad.

Gall prif swyddog yr heddlu addasu'r TUN gyda chydsyniad defnyddiwr y safle. Mewn achos o'r fath, ystyrir y bydd rhybudd o wrthwynebiad wedi’i dynnu'n ôl.

Gellir darparu gwrth-hysbysiadau gan yr awdurdod trwyddedu os rhagorir ar nifer y TUNs a ganiateir.

Byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Ffioedd

  • Y ffi sy'n daladwy am Ganiatâd Rhybudd Defnydd Dros Dro yw £500
  • Y ffi sy'n daladwy ar gyfer copi cymeradwyo newydd o’r Rhybudd Defnydd Dros Dro yw £25

Cymhwyster

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Gamblo 2005

Prosesu ac Amserlenni

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Os rhoddir gwrth-hysbysiad mewn perthynas â rhybudd gwrthwynebu, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid i apeliadau gael eu gwneud i'r llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o ddyddiad y digwyddiad a drefnwyd.

Os bydd awdurdod trwyddedu yn penderfynu peidio â rhoi gwrth-hysbysiad mewn perthynas â rhybudd gwrthwynebu, gall prif swyddog yr heddlu apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid i apeliadau gael eu gwneud i'r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod.

Ni ellir cyflwyno apêl yn hwyrach na phum diwrnod gwaith o ddiwrnod y digwyddiad a gynlluniwyd.

Manylion cyswllt:

  • Trwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk
  • Dros y Ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00 i 12:30
  • Trwy'r post:
Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN


Cyswllt Defnyddiol

Rhybudd Defnydd Dros Dro

end content