Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gyrrwr Hurio Preifat - Caniatâd


Summary (optional)
Mae angen trwydded cyn i unrhyw un allu gyrru Cerbyd Hurio Preifat. Mae trwyddedau yn amodol ar brawf cymhwyster (oed, trwydded yrru, gwiriad cofnodion troseddol, asesiad meddygol ac ati).
start content

Sut i wneud cais

Mae’n rhaid i ymgeisydd fod â thrwydded yrru llawn ers o leiaf 12 mis a rhaid bod ganddynt drwydded o’r fath pan fyddant yn cyflwyno eu cais. Yn ogystal, cyn y gall y Cyngor roi Trwydded, mae'n rhaid iddynt fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol.

Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais ar-lein, y dogfennau digidol ategol a thalu’r ffi er mwyn i’r cais gael ei dderbyn. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fynychu sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y prawf gwybodaeth cyn i’r Drwydded gael ei chaniatáu.

Cyn gwneud cais, sicrhewch eich bod yn darllen yr wybodaeth isod a fydd yn cael ei hystyried gan yr Awdurdod Trwyddedu wrth benderfynu ar gais:

I gwblhau’r ffurflen gais ar-lein, bydd arnoch chi angen y dogfennau digidol canlynol:

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a Phrawf Gwybodaeth

Ffoniwch 01492 576626 i archebu

Dyddiadau 2024

Dyddiadau 2024
 Dyddiadau Amser
 11 Ebrill                                                                                                      11yb                                                                     
1 Mai 11yb 
4 Mehefin 11yb 
9 Gorffennaf 11yb 
14 Awst 10.30yb
 4 Medi   11yb 
8 Hydref 11yb 
6 Tachwedd 11yb 
4 Rhagfyr 11yb 


Ffïoedd o 1 Mai 2019 ymlaen

MathCost

Caniatáu (trwydded tair blynedd) + DVLA

£300.00 + £10.00

Adnewyddu (trwydded tair blynedd)

£237.00

Gwiriad y DVLA (bob 3 blynedd ar ôl ei ganiatáu)

£10.00

GDG, CRB yn flaenorol (bob 3 blynedd ar ôl ei ganiatáu)

£48.00

Ail-sefyll prawf Gyrrwr Hurio Preifat

£43.00

Tystysgrif Feddygol Dosbarth 2 (bob 5 mlynedd ar ôl caniatáu nes cyrraedd 65 oed ac yna bob blwyddyn wedi hynny.)

Cost wedi’i phenderfynu gan Ymarferydd Meddygol 


Yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig

Mae’n ddyletswydd ar yr Awdurdod Trwyddedu i sicrhau bod gennych chi hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bosibl y bydd methu â darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani yn Atodiad A yn golygu y bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Collfarnau Troseddol a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae’n rhaid bod gennych chi gymeriad da.  I sefydlu hyn, bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad hanes troseddol ‘manwl’ gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

Polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gollfarnau troseddol (PDF)

Mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) wasanaeth tanysgrifio ar-lein sy’n caniatáu i ymgeiswyr ddiweddaru eu tystysgrifau GDG.

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru naill ai pan fyddwch yn ymgeisio am eich gwiriad GDG neu drwy ddefnyddio eich rhif tystysgrif GDG wreiddiol pan gaiff ei chyflwyno (mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyflwyno eich tystysgrif GDG).

Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.Efallai y bydd rhai ceisiadau yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Cyffredinol y Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Deddfwriaeth ac Amodau

Prosesu ac Amserlenni

Pan fydd yr holl waith papur wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd a’r asiantaethau allanol, a’r unigolyn wedi mynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y Prawf Gwybodaeth Hurio Preifat, gall y drwydded gymryd hyd at 28 diwrnod i’w chynhyrchu.

Dulliau Apelio / Unioni:

Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.

Cysylltu â ni

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content