Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llinell amser Prosiect y Pier


Summary (optional)
start content

2012

Mawrth
Cadarnhaodd y Cyngor ei fod, gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, wedi meddiannu’r adeiledd 112 mlwydd oed fel rhan o raglen adfywio gwerth miliynau o bunnau a oedd yn cael ei chynnal yn y dref.


2014

Mawrth
Roedd yn amlwg nad oedd ailddatblygu yn ddewis hyfyw ac felly cytunwyd i baratoi a chyflwyno ceisiadau i dderbyn caniatâd i dynnu’r strwythur.


2015

Hydref
Gwrthododd Gweinidog Llywodraeth Cymru gais am ganiatâd adeilad rhestredig.  


2017

Ar ôl i ran o’r pier ddymchwel ym mis Chwefror 2017, roedd yn rhaid i’r Cyngor gydbwyso diogelwch y cyhoedd yn erbyn y cyfrifoldebau mewn perthynas ag adeiledd rhestredig.

Derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hysbysiad o benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig i ddatgymalu Pier Fictoria.

Roedd y caniatâd i ddatgymalu’r strwythur yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ailddatblygu pier byrrach, gan gofnodi a storio elfennau ohono sy’n werthfawr o ran treftadaeth ac/neu adeiladwaith mewn man diogel er mwyn i drydydd parti allu eu hailddefnyddio mewn gwaith adfer posib’ yn y dyfodol.


2019

Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wahodd tendrau ar gyfer adeiladu pier newydd byrrach ym Mae Colwyn, a rhannwyd y gwaith yn ddwy ran:

• Ailgodi pier byrrach ac ymgymryd â gwaith ar y blaengwrt a’r prom.
• Adnewyddu'r haearn bwrw

Grosvenor Construction Ltd (cwmni adeiladu arbenigol sydd wedi’u lleoli ym Mae Cinmel) sydd â’r contract i ail-adeiladu’r pier.

Calibre Metalwork Ltd (arbenigwyr mewn adeiladu, adfer ac atgynhyrchu gwaith metel) sydd â’r contract i ailwampio’r haearn bwrw.


2020

O’r 99 panel gwreiddiol a gymerwyd o’r hen bier, mae Calibre wedi llwyddo i adfer 74 a bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar y pier newydd.

Mae’r holl bileri lampau, eu seiliau a’u pen colofnau wedi cael eu hail-fwrw (i’r dyluniad gwreiddiol).

Mae’r lliwiau ar gyfer y gwaith haearn addurniadol wedi eu cymryd o ganlyniadau dadansoddiad paent oedd yn dyddio’r cynllun lliwiau i 1934, a hynny’n cyfateb i adeiladu’r trydydd pafiliwn yn y flwyddyn honno.

end content