|
Cyflwyniad:
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data sydd wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791
|
|
Y Gwasanaeth fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol fydd:
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y corff atebol i Lywodraeth y DU ar gyfer Rhaglen Balchder Bro, ardal cymdogaeth Llandudno.
|
|
Mae’n rhaid i ni brosesu eich data personol er mwyn:
|
Rydym yn prosesu data personol i gyflawni a rheoli Rhaglen Balchder Bro ar gyfer Llandudno. Mae hyn yn cynnwys:
- Recriwtio Cadeirydd Annibynnol ac Aelodau’r Bwrdd (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y cyd ag Aelod Seneddol Bangor Aberconwy a Chadeiryddion ar ôl iddynt gael eu dewis)
- Cefnogi’r Bwrdd â materion llywodraethu a gweinyddu
- Cysylltu â chi ynghylch cyfarfodydd, digwyddiadau, dogfennau a diweddariadau am y rhaglen
- Prosesu hawliadau treuliau cymwys
- Sicrhau tryloywder, tegwch ac atebolrwydd yng ngweithrediad y rhaglen
Mae’r rhaglen Balchder Bro yn rhaglen adnewyddu dan arweiniad y gymuned sy’n cefnogi pobl leol i siapio buddsoddiad yn y dyfodol a phenderfyniadau yn eu cymdogaeth. Mae Llandudno yn un o’r ardaloedd sy’n derbyn hyd at 10 mlynedd o fuddsoddiad Llywodraeth y DU o dan y rhaglen yma.
.
|
|
Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:
|
- Enw
- Cyfeiriad
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn
- Gwybodaeth sy’n ymwneud â recriwtio
- Manylion banc (dim ond os ydych chi’n hawlio treuliau)
|
|
Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw:
(gweler Sail gyfreithiol i brosesu | Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
|
Mae angen prosesu ar gyfer:
(a) Cydsyniad – i gasglu data personol, a lle y bo’n berthnasol, i brosesu manylion banc ar gyfer taliadau treuliau.
(e) Tasg gyhoeddus – i gyflawni tasgau sy’n cael eu gwneud er budd y cyhoedd, sy’n gysylltiedig â rôl CBSC i gyflawni a gweinyddu rhaglenni sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU, yn cynnwys recriwtio i’r Bwrdd, llywodraethu a rheoli’r rhaglen.
|
|
Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl):
|
Fe allem ni gasglu’r data categori arbennig canlynol er mwyn monitro cydraddoldeb (gwirfoddol):
- Oeran
- Hil/tarddiad ethnig
- Rhyw
- Anabledd
- Crefydd
- Iaith
- Cyfrifoldebau gofalu
- Wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog
|
|
Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data categori arbennig yw:
|
Caiff gwybodaeth monitro cydraddoldeb ei brosesu o dan:- Cydsyniad penodol (Erthygl 9(2)(a) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data)
Dewisol yw monitro data, ac fe allwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r gwasanaeth.
|
|
Sut/lle caiff eich data ei storio:
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amryw o wahanol systemau i storio a phrosesu eich data. Mae rhai o’r rhain yn cael eu gwesteio’n fewnol, tra bod eraill yn cael eu gwesteio gan sefydliadau trydydd parti ar sail gwesteiwr cwmwl o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
|
|
Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:
|
Caiff eich data personol ei gadw yn unol ag amserlen gadw gorfforaethol CBSC ar gyfer cofnodion llywodraethu a gwybodaeth recriwtio y rhaglen. Caiff eich data personol ei gadw am hyd at saith mlynedd o ddiwedd Rhaglen Balchder Bro 2037.
|
|
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data:
|
Gellir rhannu eich gwybodaeth gyda:
• Swyddfa’r AS lleol – i gefnogi recriwtio Cadeirydd y Bwrdd ac Aelodau’r Bwrdd • Cadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Llandudno– ar ôl iddynt gael eu penodi • Swyddogion mewnol CBSC sy’n cefnogi rhaglen Balchder Bro • Archwilwyr Allanol neu Adrannau Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU os oes angen ar gyfer sicrwydd neu fonitro. • Awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu reoleiddio yn unol â’r gyfraith Ni fydd manylion banc yn cael eu rhannu y tu allan i brosesau ariannol CBSC.
Ni fydd data’n cael ei werthu na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Os bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd am unrhyw reswm, byddwn yn sicrhau bod prosesau diogelu ar waith i’w diogelu at o leiaf yr un safon a ddefnyddir yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
|
|
Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Modelau Iaith Mawr Deallusrwydd Artiffisial (Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol) megis ChatGPT, Bard, Bing neu offer tebyg arall
|
Nid ydym yn bwriadu defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i brosesu’r data personol.
|
|
Eich hawliau data:
|
Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:
- yr hawl i gael gwybod
- yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
- yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
- yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach.
- yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol.
- yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.
Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.
Gweler hefyd Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC:
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
|
|
Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol):
|
Amherthnasol |
|
Cyswllt gwasanaeth:
|
Datblygu a Rheoli Cyllid Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Blwch Post 1 BAE COLWYN LL29 0GG
E-bost: Rhaglen.BalchderBroLlandudno@conwy.gov.uk
|
|
Uned Llywodraethu Gwybodaeth:
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Uned Llywodraethu Gwybodaeth Blwch Post 1 Bae Colwyn LL29 0GG
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
01492 574016/577215
Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru 2il Lawr Tŷ Churchill Ffordd Churchill Caerdydd CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk
|