Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Brechlyn Covid-19 ar gyfer gweithwyr rheng flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Brechlyn Covid-19 ar gyfer gweithwyr rheng flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd: Brechlyn Covid-19 ar gyfer gweithwyr rheng flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (fel y Rheolwr Data) yn prosesu data personol staff rheng flaen mewn perthynas â'r rhaglen frechu rhag Covid-19 yn benodol.

Rhaglen wirfoddol yw hon a dewis yr unigolyn yn llwyr yw derbyn y brechlyn neu beidio.

Rhan o’r ymateb cenedlaethol i’r pandemig Covid-19 yw cofnodi manylion y rhai sydd wedi cael eu brechu rhag Covid-19, a phryd. Fel arfer rhoddir brechlynnau mewn meddygfeydd, fodd bynnag bydd y brechlyn Covid-19 yn cael ei roi mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, ac ar gyfer y rhan fwyaf o staff gofal cymdeithasol bydd hyn yn cael ei reoli gan ddarparwyr brechlyn arweiniol ar ran sefydliadau iechyd a gofal lleol.

Mae brechu yn elfen hollbwysig o ymarfer iechyd cyhoeddus ac yn ffurfio rhan o gam Diogelu Strategaeth y Llywodraeth. Mae’r hysbysiad hwn yn egluro’n benodol sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn ystod y cam brechu.  Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma: Profi Olrhain Diogelu [HTML] | LLYW.CYMRU

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cysylltir â chi i wneud apwyntiad yn un o safleoedd y Bwrdd Iechyd neu efallai y bydd yna sesiwn alw heibio leol y gallwch ei mynychu. Bydd angen i’r Bwrdd Iechyd gasglu gwybodaeth glinigol amdanoch os nad yw’r wybodaeth angenrheidiol ganddynt yn barod, er enghraifft os ydych wedi cael y brechlyn ffliw neu os oes gennych unrhyw alergeddau. Bydd y wybodaeth hon, a’ch bod wedi dewis cael y brechlyn, yn cael ei chofnodi yn eich cofnodion meddygol ac yn System Imiwneiddiad Cymru (SIC).

Ar ôl i chi gael y brechlyn bydd eich Meddyg/Awdurdod Lleol yn cael eu hysbysu. Bydd hyn yn eu cynorthwyo nhw gyda’u dyletswydd gyfreithiol i reoli eich iechyd, eich lles a'ch diogelwch chi a phobl eraill. Am yr un rheswm gellir hefyd dweud wrth eich Meddyg Teulu/Awdurdod Lleol os ydych wedi gwrthod y brechlyn.

Pa wybodaeth bersonol fydd yn cael ei rhannu?

Byddwn yn rhannu dim ond hynny o wybodaeth bersonol sy’n angenrheidiol i gwblhau’r rhaglen hon.

Mae’n bosibl y defnyddir rhywfaint o, neu'r holl wybodaeth ganlynol:

  • Enw Llawn
  • Rhyw
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad Cartref
  • Rhif ffôn cyswllt


Gyda phwy y gallwn rannu’r wybodaeth hon?

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr gwasanaeth megis Meddygon Teulu a darparwyr brechlyn arweiniol sy’n gweithio ar ran sefydliadau iechyd a gofal lleol.

Am faint fydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd gwybodaeth am frechlynnau a gafwyd, canlyniadau profion a gwybodaeth am unrhyw gyflyrau parhaus cysylltiedig â Covid-19 yn aros ar eich cofnod iechyd yn unol ag amserlenni cadw’r GIG.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ein defnydd ni o’ch gwybodaeth bersonol?

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r sail gyfreithiol dros brosesu'r data hwn i'w gweld yn erthyglau:

6 (1) (c) Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfiaeth â'r rhwymedigaethau cyfreithiol y mae’r rheolwr yn ddarostyngedig iddynt.

6 (1) (e) Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolwr.

a

9 (2) (h) Mae prosesu'n angenrheidiol i’r pwrpas o ddarparu gofal cymdeithasol neu ofal neu driniaethau iechyd.

Rhannu eich data personol

Yn y pandemig cyfredol hwn, gallwn rannu eich gwybodaeth gydag awdurdodau cyhoeddus eraill, gwasanaethau brys a budd-ddeiliaid eraill lle bo angen. Bydd hyn yn cael ei wneud dim ond os yw hynny’n angenrheidiol ac mewn dull cymesur ac wedi’i reoli.

Am faint fyddwn ni’n cadw eich data personol

Byddwn yn cadw eich data personol dim ond am hynny o amser sy’n angenrheidiol   i’r pwrpas yr ydym yn ei brosesu, oni bai bod gennym reswm cyfreithiol dros ei gadw, er enghraifft unrhyw ofyniad cyfreithiol i gadw’r data am gyfnod penodol o amser. 

Fodd bynnag, ble bynnag bosibl, byddwn yn gwneud y data hwn yn ddienw fel na fydd modd eich adnabod. 

Lle nad oes angen i ni barhau i brosesu eich data personol, bydd yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.

Eich hawliau a’ch data personol

Oni bai eich bod yn destun eithriad o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae gennych yr hawliau canlynol o ran eich data personol:

  1. Hawl i ofyn am gopi o’ch data personol sydd gennym amdanoch.
  2. Hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol os canfyddir ei fod yn anghywir neu wedi dyddio.
  3. Hawl i ofyn i gael dileu eich data personol lle nad yw’n angenrheidiol i ni gadw data o’r fath mwyach.
  4. Hawl i gofnodi cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gallwch weld y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi (rhif 1 uchod), drwy gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth Diogelu Data – Gwneud cais am eich data (conwy.gov.uk)

Os hoffech wneud cais mewn perthynas â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar y manylion isod. 

Cwynion neu ymholiadau

Rydym yn ceisio bodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn o ddifri. Os oes gennych unrhyw bryderon, cwestiynau neu sylwadau, anfonwch e-bost at Swyddog Diogelu Data’r Cyngor.

Os ydych wedi bod drwy bob rhan o’r broses cwynion ond yn dal ddim yn fodlon bod eich cais neu eich adolygiad wedi’i drin yn gywir, gallwch apelio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i ymchwilio i’r mater ymhellach drwy ysgrifennu at:

Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth Cymru
2il Lawr, ŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

 

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau, byddwn yn cyhoeddi’r fersiwn diweddaredig ar ein gwefan.

Gwybodaeth gyswllt y Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data   
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

 

E-bost: derek.oconnor@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content