Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Swyddfa'r Wasg

Hysbysiad Preifatrwydd Swyddfa'r Wasg


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Y gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata - Swyddfa’r Wasg.

Y rheswm (pwrpas) pam mae’n angenrheidiol prosesu eich data personol

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y pwrpasau canlynol:

  • anfon datganiadau’r wasg a datganiadau atoch
  • anfon cyfathrebiadau brys gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • rhannu gwybodaeth er budd y cyhoedd

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu

Eich enw, sefydliad y cyfryngau, cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn.

Y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol

(a) Cydsyniad

Sut / lle caiff eich data ei storio

Mae'r data wedi'i gadw'n fewnol.

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw

Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel os ydych chi’n gadael eich sefydliad cyfryngau neu’n rhoi gwybod i ni nad ydych chi’n dymuno derbyn gwybodaeth mwyach.

Rydym yn anelu at gadw eich gwybodaeth yn gywir ac yn ddiweddar. Gallwch ein helpu ni i wneud hyn ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni os yw’r wybodaeth a roesoch i ni, megis eich cyfeiriad, yn newid.

Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu

Gall eich gwybodaeth bersonol gael ei rhannu, pan fo’n briodol ac yn berthnasol, gyda gwasanaethau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu bartneriaid allanol, at bwrpas ymateb i ymholiadau’r wasg neu i ddosbarthu datganiadau i’r wasg. Byddant ond yn cael mynediad i’ch gwybodaeth pan fo’n angenrheidiol i berfformio tasg er budd y cyhoedd.

Eich hawliau data

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch
  • yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol

Yn yr amgylchiadau prin lle’r ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gellwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd.

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall

Byddwn ond yn casglu, dal a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth am hirach nag sydd raid. Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel os ydych chi’n gadael eich sefydliad cyfryngau neu’n rhoi gwybod i ni nad ydych chi’n dymuno derbyn gwybodaeth mwyach.

Cyswllt gwasanaeth

I arfer unrhyw rai o’ch hawliau o dan y ddeddf Diogelu Data, cysylltwch â ni:

  • drwy e-bost: swyddfarwasg@conwy.gov.uk
  • dros y ffôn: 01492 576007
  • drwy’r post: Swddfa'r Wasg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG

Uned Llywodraethu Gwybodaeth

If you have any other questions about how your personal data is used, or you wish to exercise any of your rights referred to above, please contact the Information Governance Unit:

  • drwy e-bost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
  • dros y ffôn: 01492 577215
  • drwy’r post: Uned Llywodraethu Gwybodaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i'r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

  • drwy e-bost: wales@ico.org.uk
  • drwy’r post: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru, 2il Lawr, Churchill House, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content