Hysbysiad Preifatrwydd
Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r Tîm Gwarchod y Cyhoedd byddwn fel mater o drefn yn casglu gwybodaeth bersonol benodol gennych chi, er enghraifft: eich enw, eich rhifau ffôn, eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfeiriad cartref ac ar adegau, efallai y bydd angen i ni neu y byddwch chi’n dymuno darparu gwybodaeth bersonol arall. Ond bydd y math o wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar natur yr ymholiad/ymchwiliad, a gallai hyn fod yn berthnasol i nifer o’n gwahanol wasanaethau, megis: ceisiadau am wasanaeth rheoli plâu, materion iechyd yr amgylchedd a bwyd, cyngor, gorfodaeth tai, ymchwiliadau, trwyddedau a chaniatâd, adrodd am drosedd neu sylwadau, hysbysiadau ac apeliadau y dymunwch chi eu gwneud.
Pwy ydym ni?
Mae gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn cynnwys y swyddogaethau canlynol:
- Safonau Masnach
- Trwyddedu, gan gynnwys Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo
- Iechyd yr Amgylchedd
- TCC
At ba ddiben ydym ni’n defnyddio data?
I ddarparu gwasanaethau a chyflawni swyddogaethau statudol, rydym yn cofnodi ac yn cynnal gwybodaeth bersonol fel y bo’n briodol yn ôl yr amgylchiadau. Mae’r gwasanaeth ond yn prosesu Data Personol pan fod o leiaf un o’r amodau canlynol yn cael ei gyflawni:
- Mae Gwrthrych y Data wedi rhoi caniatâd.
- Mae angen hyn er mwyn cyflawni contract gyda Gwrthrych y Data.
- Mae'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol.
- Mae angen hyn er mwyn diogelu diddordebau hanfodol Gwrthrych y Data neu unigolyn arall.
- Mae’n angenrheidiol i gyflawni tasg a gyflawnwyd er lles y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol wedi ei freinio i'r Rheolydd Data.
- Mae’n angenrheidiol at ddibenion diddordebau cyfreithlon a weithredir gan y Rheolydd Data neu drydydd parti.
Bydd yr amod perthnasol yn amrywio yn sgil amgylchiadau, ond yn bennaf, amodau 3, 5 a 6 yw’r prif resymau y cedwir gwybodaeth bersonol ac y caiff ei ddefnyddio gan y gwasanaeth.
Sut ydym ni’n defnyddio Data Personol?
Defnyddir data fel y disgrifir yn Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor ar wefan y cyngor ar: Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy . Bydd y gwasanaeth yn cydymffurfio gyda gofynion deddfwriaeth diogelu data. Mae manylion diogelu data corfforaethol ar wefan y Cyngor ar: Diogelu Data
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cwblhau contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).
Gall y Cyngor hefyd ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo angen hynny, naill ai i gydymffurfio â’r gyfraith neu lle y caniateir hynny dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Bydd y Cyngor hefyd yn cyhoeddi sylwadau y mae’n eu derbyn ar geisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig ar ei wefan, gan gynnwys enwau a chyfeiriadau post ond ni fydd yn cyhoeddi rhifau ffôn na chyfeiriadau e-bost personol.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros gaffael a phrosesu gwybodaeth bersonol?
Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein swyddogaethau.
Am ba mor hir y byddwn ni’n cadw data personol?
- Cedwir cofnodion sy’n ymwneud â ffioedd a roddir ar eiddo neu dir nes bydd y ffioedd hynny wedi’u talu i’r cyngor neu wedi’u canslo;
- Cedwir data camerâu a wisgir ar y corff a fideos TCC mannau cyhoeddus am 31 diwrnod cyn eu dileu. Dim ond os yw’r ffilm yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth y bydd yn cael ei gadw am gyfnodau hirach. Yn yr achosion hynny, cedwir data am 6 mlynedd.
Beth yw fy hawliau mewn perthynas â’m data personol?
Mae manylion llawn ynghylch sut y gallwch chi ofyn am ddata personol ar gael ar wefan y cyngor ar: Diogelu Data – Gwneud cais am eich data.
Ymgynghoriad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn
Mae’r arolygon hyn yn ddienw. Nid ydym yn gofyn am enw na manylion cyswllt. Er mwyn helpu i atal ymatebion dyblyg, mae’r arolwg yn creu cyfeirnod unigryw a fydd yn cael ei gadw yn eich porwr a’i anfon gyda’ch ymateb. Nid yw hwn yn cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi. Bydd eich atebion yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i benderfynu ar reolau rheoli cŵn mewn mannau cyhoeddus o 2026.
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy