Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd - grant Cronfa Allweddol UKSPF

Hysbysiad Preifatrwydd - grant Cronfa Allweddol UKSPF


Summary (optional)
start content

Hysbysiad Preifatrwydd


 Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data sydd wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol fydd:

Bydd y Cyngor, yn benodol Cyllid a Llywodraethu, ar ran Llywodraeth y DU a Chyngor Gwynedd (fel Awdurdod Arweiniol UKSPF ar gyfer Gogledd Cymru), yn gweinyddu Cronfeydd Allweddol Ffyniant Cyffredin y DU ar gyfer Conwy 

Mae’n rhaid i ni brosesu eich data personol er mwyn:

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth i asesu ceisiadau grant Cronfa Allweddol UKSPF Conwy ac yn rhannu eich gwybodaeth gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd (fel Awdurdod Arweiniol UKSPF ar gyfer Gogledd Cymru), Sefydliadau’r Trydydd Sector ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill, gan ddibynnu ar y cais.
 
Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth wrth weinyddu Cronfa Allweddol UKSPF Conwy ac i fonitro a gwerthuso eich prosiect. 

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:

Bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chadw a’i brosesu ar gyfer ceisiadau Cronfa Allweddol UKSPF Conwy fel arfer yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: 
  • enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt
  • gwybodaeth mewn perthynas â’r sefydliad sy’n ymgeisio, e.e. gwybodaeth ariannol 

Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw:

(gweler Sail gyfreithiol i brosesu | Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau a bydd hyn yn penderfynu a fydd eich cais am grant yn llwyddiannus ai peidio.  Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth tra bod y prosiect yn cael ei weithredu, i weinyddu, monitro a gwerthuso cynnydd eich prosiect. 

Y sail gyfreithiol dros hyn yw erthygl 6(1) GDPR y DU.

  • e) mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cynnal tasg a ymgymerwyd er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd 


Mae gennym hefyd ddyletswydd o dan y sail gyfreithiol ganlynol: 
Atal/canfod troseddau, yn cynnwys ymhoniad anwir yn unol â’r Ddeddf Twyll. 

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl):

Amherthnasol

Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data categori arbennig yw:

Amherthnasol

Sut/lle caiff eich data ei storio:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amryw o wahanol systemau i storio a phrosesu eich data. Mae rhai o’r rhain yn cael eu gwesteio’n fewnol, tra bod eraill yn cael eu gwesteio gan sefydliadau trydydd parti ar sail gwesteiwr cwmwl o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. 

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am 10 Mlynedd o ddiwedd y Rhaglen Ariannu.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data:

Mae’n bosibl y caiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu gyda phartneriaid allanol ac asiantaethau’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar ein rhan.  Byddant ond yn cael mynediad at eich gwybodaeth os oes ei hangen arnynt i ddarparu gwasanaeth i chi. 


Gall y Cyngor hefyd ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo angen hynny, naill ai i gydymffurfio â’r gyfraith neu le y caniateir hynny dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Mae esiamplau o drydydd parti y gallwn rannu eich gwybodaeth â nhw yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

  • Llywodraeth y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Gwynedd fel Awdurdod Arweiniol UKSPF ar gyfer Gogledd Cymru 
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector
  • ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.


Os bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd am unrhyw reswm, byddwn yn sicrhau bod prosesau diogelu ar waith i’w diogelu at o leiaf yr un safon a ddefnyddir yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. 

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
  • yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach.
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol.
  • yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.

Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler hefyd Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC:

Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol):

Hysbysiad Preifatrwydd Awdurdod Arweiniol UKSPF ar gyfer Gogledd Cymru (Cyngor Gwynedd): Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (llyw.cymru)

Cyswllt gwasanaeth:

Datblygu a Rheoli Cyllid
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1 
CONWY 
LL30 9GN

E-bost: sharedprosperityfund@conwy.gov.uk

Uned Llywodraethu Gwybodaeth:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1 Conwy LL30 9GN 

uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk

01492 574016/577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru 2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content