Y Gronfa Adfywio Cymunedol
Ar ddechrau haf 2022, cafodd y Canolbwynt wybod bod rhaglen Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn cael ei hymestyn am chwe mis arall. Roedd hynny’n golygu fod y Canolbwynt wedi gallu rhoi cefnogaeth bellach a chyflwyno cyrsiau datblygu i deuluoedd sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol trwy ddefnyddio gweithgareddau antur awyr agored i hybu cyfranogiad a chysylltiad, gan godi hyder, a gwella’r ffordd y mae teuluoedd yn cyfathrebu ac yn ymwneud â’i gilydd.
Daeth y datblygiad hwn ynghyd â phrosiectau eraill i ben ddiwedd Rhagfyr 2022 a chyflawnwyd y canlynol:
Hyder yn Dy Hun
Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar leihau ynysiad cymdeithasol, datblygu gwytnwch, cynyddu hyder/hunan-barch, datblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd, gwirfoddoli, ennill cymwysterau a gwella iechyd corfforol a meddyliol.
Roedd yn darparu cefnogaeth sylweddol i gyfranogwyr gyda gweithgareddau wythnosol yn cynnwys gwahanol fathau o hyfforddiant, gweithgareddau anturus, celf a chrefft, a chyflawnwyd y canlynol:
- Cefnogwyd 56 o gyfranogwyr a dywedodd pob un fod y rhaglen wedi gwella eu cynhwysiad cymdeithasol ac wedi lleihau rhwystrau cymdeithasol
- Bu 46 o gyfranogwyr ar hyfforddiant neu sesiynau addysgol
Roedd yn eithriadol o lwyddiannus ac mae’r fideo pwerus 7 munud o hyd hwn ar Vimeo yn cynnwys cyfranogwyr yn siarad am eu prosiect, eu cefndir a sut y mae ‘Hyder yn Dy Hun’ wedi trawsnewid eu bywydau.
Cwnsela Therapiwtig
Cwnsela a/neu hyfforddiant tymor byr yn canolbwyntio ar waith oedd hyn, i gefnogi pobl i oresgyn rhwystrau iechyd meddwl i gyflogaeth, dan arweiniad RCS Wales. Buont yn cefnogi 50 o gyfranogwyr a dywedodd 84% fod eu gallu i weithio wedi gwella o ganlyniad i’r ymyrraeth a dywedodd 84% fod eu hiechyd wedi gwella hefyd.
Coleg Adfer Iechyd Meddwl
Prif ganlyniad y prosiect hwn oedd Cynllun Arloesi i nodi’r sail ar gyfer Coleg Adfer Iechyd Meddwl i Gonwy.
Roedd y cynllun yn seiliedig ar ymgynghoriad, trafodaethau gyda budd-ddeiliaid a gwaith cyd-gynhyrchu gyda phobl oedd yn gwirfoddoli i gymryd rhan - fel unigolion sydd â phrofiad o iechyd meddwl ac fel cynrychiolwyr sefydliadau sydd am gymryd rhan. Dangosodd y Cynllun y byddai Coleg Adfer Iechyd Meddwl o fudd i’r sir ac mae gwaith ar y gweill i chwilio am ffynonellau cyllid.
Cyrsiau Llwybr a Datblygiad
Roedd dwy elfen benodol i’r rhaglen. Roedd y Cyrsiau Llwybr yn darparu hyfforddiant penodol i sectorau i gyfranogwyr sy’n barod am waith a oedd yn canolbwyntio ar sectorau y mae galw lleol amlwg amdanynt. Bwriad y Cyrsiau Datblygiad oedd ymgysylltu â phobl oedd yn bellach o’r farchnad lafur er mwyn ennyn eu diddordeb mewn opsiynau i ddatblygu fel rhan o daith hirach tuag at gyflogaeth.
- Cynhaliwyd 36 cwrs
- Cwblhaodd 149 o gyfranogwyr gwrs yn llwyddiannus
- Cafodd 31 o gyfranogwyr gefnogaeth i gael gwaith
- Cafodd 69 o gyfranogwyr gefnogaeth i ennill cymhwyster
- Cafodd 24 o gyfranogwyr gefnogaeth i ymgysylltu â sgiliau bywyd
- Enillodd 84 o gyfranogwyr gymwysterau nad ydynt wedi’u cofrestru â OFQUAL
Canolbwyntiau Adferiad Cymunedol mewn Llyfrgelloedd
Roedd hwn yn brosiect peilot a oedd yn darparu gwasanaethau mewn llyfrgelloedd y mae darparwyr gwasanaeth fel arfer yn eu darparu o’u safleoedd eu hunain neu nad oeddent ar gael yn lleol. Roedd y cam yn llwyddiannus a defnyddiwyd y gwasanaethau 2,774 o weithiau, a chynhaliwyd 261 o sesiynau cefnogaeth a thrafodaeth gyda chyfranogwyr unigol a'r gobaith yw y bydd hyn yn parhau.
Roedd rhaglen y Gronfa Adfywio Cymunedol yn llwyddiant gan iddi gyflawni buddion economaidd i’r cyfranogwyr a hefyd ar gyfer y cyflogwyr o ystyried y diffyg sgiliau a gweithwyr sydd ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid sylweddoli gwerth a gwahaniaeth positif y prosiectau ar fywydau nifer o bobl.