Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynnydd


Summary (optional)
start content

Cynnydd

Mae’r prosiect Cynnydd yn cefnogi pobl ifanc 16-24 oed sy’n byw yng Nghonwy ac sy’n profi rhwystrau sylweddol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Gan gynnig gwasanaeth mentora un i un, mae’r prosiect Cynnydd yn gweithio’n agos â TRAC, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, Mind Conwy, Canolfan y Dderwen, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Gyrfa Cymru.

Mae pobl ifanc yn cael eu cefnogi i gael mynediad i nifer o gyrsiau a rhaglenni hyfforddiant a gwaith gyda darparwyr fel Cyfle Cymru, Coleg Llandrillo, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Addysg Oedolion Cymru ac Agored yn ogystal â chael eu cyfeirio at asiantaethau perthnasol i weld pa gefnogaeth sydd ei hangen. Gyda chefnogaeth wyneb yn wyneb, mae prosiect Cynnydd yn gweithio gyda phobl ifanc i adeiladu ar eu hyder a'u hunan-werth ar eu cyflymder eu hunain.

Gan gydnabod y rhwystrau sylweddol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, mae prosiect Cynnydd wedi derbyn 96 o atgyfeiriadau, a 29 o'r bobl ifanc hynny wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a 24 o bobl ifanc wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaethau perthnasol yn unol â’u hanghenion.

Mae bod yn rhan o’r prosiect Cynnydd hefyd yn golygu'r cam cyntaf o ran unrhyw ymyrraeth gan wasanaethau neu gyrff proffesiynol gyda llawer o bobl ifanc yn profi arwahanrwydd cymdeithasol, problemau iechyd meddwl a diffyg sgiliau wrth adael yr ysgol. Mae’r prosiect Cynnydd yn rhoi cyfle i adeiladu ar berthnasau o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc gan ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ddatblygu, archwilio a darganfod cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw a’u cynnydd.

Astudiaeth Achos

Atgyfeirwyd AB i’r Prosiect Cynnydd gan Ganolfan Deuluoedd Ganolog Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ar ôl y pandemig, teimlai AB nad oedd wedi gwneud yn dda yn yr ysgol ac roedd eisiau datblygu ei sgiliau craidd fel ei fod yn gallu mynd allan i weithio.

Dyma mentor yn cwrdd ag AB a thrafod y cyfle i gymryd rhan yn rhaglen ‘Sgiliau Gwaith’ Twf Swyddi Cymru + ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hynny. Eglurodd y mentor bob dim am y rhaglen wrth AB, sut yr oedd yn gweithio, lle y byddai’n cael ei ddysgu a’r hyn oedd ynghlwm â’r rhaglen.

Anfonodd y mentor ei fanylion ymlaen i Hyfforddiant Gogledd Cymru ond ar ôl ychydig o amser sylweddolwyd fod yna broblemau cyfathrebu. Trwy gyswllt rheolaidd gyda’r darparwr hyfforddiant ac AB a’i deulu, roedd y mentor yn gallu gwneud yn siŵr fod AB wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen. Mae AB bellach yn cymryd rhan yn y rhaglen yn rheolaidd ac yn ei mwynhau yn fawr iawn.

end content