Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gyrfaoedd / Ffeiriau Swyddi


Summary (optional)
start content

Gyrfaoedd / Ffeiriau Swyddi

O ran yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan fusnesau a cheiswyr gwaith yn ystod Covid, mae’r Canolbwynt wedi trefnu dwy ffair swyddi yn 2022/23 gyda’r nod o hyrwyddo y recriwtio a chyfleoedd gyrfaol ar draws y rhanbarth a helpu busnesau i ail-adeiladu eu hunain ers y pandemig ac i roi hwb i’r economi leol.

Ffair Swyddi Conwy

Mae Ffair Swyddi Conwy yn ddigwyddiad cyflogaeth a gynhaliwyd ym Mai 2022 yn Yr Ysgubor yng Nghanolfan Digwyddiadau Eirias, Bae Colwyn.

Llwyddodd y digwyddiad ar gyfer yr holl sectorau i ddod â chyflogwyr ynghyd a oedd yn recriwtio’n weithgar bobl yn chwilio am waith, yn ogystal â cholegau, timau cefnogi busnes a darparwyr hyfforddiant i’r rheiny sydd eisiau edrych ar gyfeiriad newydd neu ddatblygiad proffesiynol a phersonol. Roedd yna weithdai hefyd gan Cymru’n Gweithio a oedd yn ymwneud â themâu o dechnegau cyfweld i ysgrifennu CV.

Trefnwyd mewn partneriaeth â Cymru’n Gweithio sy’n cael ei redeg gan Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chefnogaeth Busnes Conwy, ac roedd pawb wedi canmol y digwyddiad i’r cymylau gan atynnu 70 o fusnesau a sefydliadau a dros 170 o bobl yn chwilio am waith.

Ffair Yrfaoedd Conwy

Trwy sicrhau cyllid ychwanegol gan Warant Pobl Ifanc trefnodd y Canolbwynt Ffair Gyrfaoedd Conwy ym Mawrth 2023 a ymrwymodd i helpu a chyflwyno pobl 16-24 oed i gyflogaeth ac/neu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau am oes.

Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mawrth 2023 mewn partneriaeth â Creu Menter, Cymorth i Fusnesau Cymru, Adran Gwaith a Phensiynau a Cymru’n Gweithio dan arweiniad Gyrfa Cymru ac roedd yn llwyddiant ysgubol gyda mwy na 75 o fusnesau a sefydliadau o gyrsiau addysgol a hyfforddiant, a busnes gyda phrentisiaethau a chyfleoedd gyrfa i 482 o ymwelwyr.

Cynhaliodd y Canolbwynt adloniant am ddim gyda chwrs rhwystrau aer a Bws Gemau iBox ac roedd gan nifer o’r arddangoswyr stondinau rhyngweithiol gan gynnwys Nintendo Gogledd Cymru, URC a CELS sy’n darparu sesiynau addysg gyda chymeriadau i ddatblygu cadernid, gwaith tîm a hyder, yn ogystal â sgiliau ymarferol eraill trwy weithgareddau difyr ac ymarferol.

end content