Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgysylltu â'r Gymuned


Summary (optional)
start content

Ymgysylltu â'r Gymuned

Pan ddechreuwyd llacio cyfyngiadau Covid-19 fe ail-ddechreuodd y Canolbwynt ei rhaglen ymgysylltu â’r gymuned.

Mae cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb a bod yn rhan ganolog o’r gymuned yn agwedd sylfaenol o waith y Canolbwynt a’r gefnogaeth y mae’n ei gynnig i helpu’r rheiny sy’n ddi-waith i ddod o hyd i gyflogaeth, neu eu darparu nhw gyda’r hyfforddiant sydd ei angen i feddu ar y sgiliau ar gyfer gweithio.

Ym Mehefin 2022, fe gynhaliodd mentoriaid a chynghorwyr y Canolbwynt sesiynau galw heibio yn wythnosol mewn nifer o ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau i deuluoedd gan dargedu ardaloedd allweddol lle mae preswylwyr Conwy fwyaf angen cymorth y Canolbwynt. Mae’r sesiynau Galw Heibio yn gyfle i bobl siarad am y materion maen nhw’n eu hwynebu, p’un ai yw hynny’n ddiffyg hyder, cyngor am fudd-daliadau, help i ganfod swydd neu hyfforddiant i feithrin sgiliau.

Mae’r Canolbwynt hefyd yn cynnal Clybiau Swyddi yng Nghanolfan Dewi Sant, Pensarn a Chanolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn, Llandudno i gynnig cefnogaeth fwy personol gyda dod o hyd i waith. Mae hyn yn cynnwys help i ysgrifennu CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi pobl ar gyfer cyfweliadau yn ogystal â chefnogaeth i fynd ar-lein.

Hefyd, mae’r Canolbwynt wedi mynychu clinigau adsefydlu i bobl o’r Wcráin a chyfarfodydd mewn Canolfannau Meddygol yn wythnosol yn ogystal â gwestai lleol i gynnig unrhyw gymorth a chefnogaeth sydd ei angen ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am waith.

Mae nifer o bobl Wcráin yn hynod fedrus ond nid yw eu cymwysterau yn gydnaws â system y DU, ac mae rhwystr ychwanegol, sef Saesneg.

Trwy weithio gyda Gyrfa Cymru roedd y Canolbwynt yn gallu cynnig proses llwybr cyflym i gydnabod ac alinio cymwysterau Wcreineg yn ogystal â chyflwyno cyrsiau Saesneg a olygai nifer uchel o bobl Wcráin yn cofrestru ar raglenni’r Canolbwynt.

end content