Peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth sensitif dros y ffurflen we hon. Os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach sydd angen ei thrafod, cysylltwch â ni ar 01492 575578.
Ydych chi’n adnabod rhywun sydd eisiau help gyda dod o hyd i waith? Efallai eich bod mewn swydd sydd ddim yn cynnig digon o oriau, neu eich bod yn breuddwydio am gael gwneud rhywbeth gwahanol ond mae rhwystrau penodol yn eich dal yn ôl? Efallai eich bod yn ddi-waith neu'n wynebu cael eich diswyddo. Beth bynnag yw eich sefyllfa, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi!
Rydym yn darparu cefnogaeth un-i-un, arweiniad a hyfforddiant i oedolion 25 oed a hŷn ac i bobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Os nad ydi eich amgylchiadau yn cyd-fynd â'r meini prawf yma, peidiwch â phoeni, gallwn eich cyfeirio at rywun a fydd yn gallu eich cynorthwyo.
Gallwn eich helpu â:
- Llunio CV
- Sgiliau cyfweliadau
- Cyrsiau (am ddim)
- Cymwysterau
- Lleoliadau gwaith
- Cysylltiadau â chyflogwyr
- Magu hyder
- Cyfeirio
- Gwirfoddoli (nid yw’n effeithio ar fudd-daliadau)
Diweddariad Covid-19
Mae ein swyddfa ar gau ar hyn o bryd i staff a’r cyhoedd, ond rydym yn parhau i gefnogi llawer o bobl y mae angen help arnynt i ganfod cyflogaeth.
- Pe baech am wneud atgyfeiriad ar gyfer ein cefnogaeth, gallwch wneud hynny trwy:
- Ddefnyddio’r ffurflen ar-lein Ffonio: 01492 575578 or 07711 567191
- Anfon e-bost: cymunedauamwaith@conwy.gov.uk
Gallwn ein sicrhau ein bod yn dal i fod yn ymrwymedig i ddarparu’r un gwasanaeth gwych yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen.
Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith i helpu'r oedolion hynny sydd bellaf i ffwrdd o waith. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac mae’n darparu buddsoddiad o £41.2 miliwn i gefnogi cyflogaeth yn y 52 clwstwr Cymunedau yn Gyntaf ar draws Cymru – mae hyn yn cynnwys £24.8 miliwn o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r rhaglen wedi'i noddi ar y cyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac fe’i cynhelir tan 2022.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darpariaeth barhaus Cymunedau am Waith ac i symud ymlaen â’r hyn a ddysgir o’r Rhaglen Esgyn.
