Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Achos


Summary (optional)
start content

Rhaglen Cymunedau am Waith - Astudiaeth Achos

Ann

Yn fam i 3 o blant ifanc ac yn ofalwr rhan-amser i’w gŵr, roedd Ann yn ddealladwy yn ei chael yn anodd nid yn unig i ganfod swydd ond hefyd i benderfynu ar ba lwybr i’w gymryd o ran gyrfa ac roedd hyn, yn ogystal â delio â’i chyfrifoldebau, yn cael effaith ar ei hyder.

Darllenwch yr astudiaeth achos Ann yn llawn

Craig

Cyfeiriodd DWP Craig at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy gan y teimlwyd bod tîm y Ganolfan o fentoriaid a chynghorwyr ymroddedig yn fwy addas i'w helpu gyda'i broblemau iechyd meddwl a lles.

Darllenwch yr astudiaeth achos Craig yn llawn

Lauren

Mae Lauren yn ddynes 32 oed gyda nifer o rwystrau, gan gynnwys problemau iechyd, a oedd yn ei hatal rhag cael gwaith. Cafodd ei chyfeirio at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ystod y cyfnod clo Covid cyntaf ym mis Mawrth 2020, gan y teimlwyd bod y Canolbwynt yn fwy addas i gynnig y cyngor a’r mentora ymroddedig roedd ei angen arni.

Darllenwch yr astudiaeth achos Lauren yn llawn

Marie

Mae Marie yn rhiant sengl i ddau o blant bach ac mae’n dioddef gyda’i iechyd meddwl yn sgil gorbryder llethol. 

Darllenwch yr astudiaeth achos Marie yn llawn

Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy - Astudiaeth Achos

Chris

Roedd ar Chris eisiau gweddnewid ei fywyd ac roedd arno angen cefnogaeth y Canolbwynt i ddilyn yr un yrfa â’i dad a dod yn yrrwr HGV.

Darllenwch yr astudiaeth achos Chris yn llawn

David

Roedd ar David angen cymorth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy i’w helpu i gael trwydded yrru Cerbyd Cludo Pobl (PVC) a gwaith fel gyrrwr coetsis.

Darllenwch yr astudiaeth achos David yn llawn

Lee

Roedd anaf cefn yn golygu bod gyrfa 24 mlynedd Lee fel gyrrwr bysiau a coetsys wedi dod i ben, ac ar ôl 16 mis o ddiweithdra cafodd ei gefnogi gan Hwb i gael gwaith fel gweithiwr cefnogi Gofal Cymunedol.

Darllenwch yr astudiaeth achos Lee yn llawn

Mark

Atgyfeiriwyd Mark at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy pan gychwynnodd y pandemig ar ôl colli ei swydd.  Bu’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch ond roedd yn teimlo bod y patrymau shifft gwahanol yn anodd eu trin, yn ogystal â diffyg sicrwydd o fod ar gontract dim oriau.

Darllenwch yr astudiaeth achos Mark yn llawn

Nick

Yn 49 oed, fe gollodd Nick ei waith am y tro cyntaf yn ei fywyd pan fu rhaid i’r gwesty lle'r oedd yn gweithio orfod cau oherwydd pandemig y Coronafeirws. Yn ystod y cyfnod clo gorfodol, cafodd Nick amser i ystyried i ba gyfeiriad roedd eisiau mynd yn ei yrfa, ac fe benderfynodd mai dyma’r cyfle perffaith i ennill sgiliau TG a chymwysterau ychwanegol a fyddai’n helpu iddo ddod o hyd i gyflogaeth gwell am dâl yn y dyfodol.

Darllenwch yr astudiaeth achos Nick yn llawn

Darren

Mae Darren, 21 mlwydd oed, wedi derbyn swydd Barista gyda'r Gymraes a enillodd yr Apprentice, yng nghaffi Ridiculously Rich Alana Spencer yn Llandudno diolch i gymorth Cymunedau am Waith a Mwy Conwy.

Darllen wch yr astudiaeth achos Darren yn llawn

end content