Nod ein Strategaeth Cyfathrebu ac Ymrwymiad yw datblygu ymddiriedaeth a dealltwriaeth ymysg ein preswylwyr wrth i ni symud o fod yn ddarparwyr i alluogwyr gwasanaethau.
Rydym angen ailosod disgwyliadau cymunedau. Mae hyn yn golygu newid y ffordd y byddwn yn meddwl am ein preswylwyr fel cwsmeriaid – y rheiny gyda pherthynas trafodaethol â ni.
Ein is-bennawd yw: yr amgylchedd cywir. Ein gwaith ni yw creu’r amgylchedd cywir i bethau ddigwydd, maen nhw’n rhannu’r cyfrifoldeb i gyflawni’r pethau hynny.
Mae ein hymrwymiad â’r preswylwyr angen bod yn syml. Mae’n bwysig adnabod bod preswylwyr yn dymuno siarad gyda ni ar delerau eu hunain, ac yn ffordd eu hunain.
Bydd rhai eisiau chwilio am wybodaeth eu hunain tra bod eraill eisiau mwy o gymorth. Rydym angen gweithgareddau cyfathrebu all ddarparu ar gyfer pawb.
Dylai ein dull fod yn:
- Gyson
- Wedi’i gynllunio
- Rhagweithiol
- Dilys
- Cyraeddadwy.