Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Budd-daliadau Addysg Ehangu prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd (blwyddyn 7 ac 8)

Ehangu prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd (blwyddyn 7 ac 8) 2026-2027


Summary (optional)
start content

Mae Llywodraeth Cymru yn ehangu darpariaeth prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd mewn aelwydydd sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, heb unrhyw derfyn incwm, gan ddechrau gyda phlant ym mlynyddoedd 7 ac 8.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cynnig prydau ysgol am ddim estynedig hwn. Bydd disgyblion cymwys yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim o 2 Tachwedd 2026 ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae'r cynnig estynedig ar gael i ddisgyblion cymwys ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn unig. Mae'n darparu prydau ysgol am ddim yn unig ac nid yw'n cynnwys y Grant Hanfodion Ysgol.

Sut i wneud cais

Os ydych eisoes wedi derbyn cadarnhad eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach.

Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad ac yn credu y gallai eich plentyn fod yn gymwys, gwnewch gais nawr fel y gellir asesu eich cymhwysedd.

Pan fydd disgybl yn gymwys o dan y cynllun prydau ysgol am ddim estynedig, bydd yr hawl yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn academaidd a bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol.

end content