Alla i weithio tra bod fy hawliad lloches yn cael ei ystyried?
Ni chaniateir i fwyafrif y ceiswyr lloches weithio tra bod eu hawliad lloches yn cael ei brosesu. Mae eithriadau penodol yn gymwys o dan reolau Llywodraeth y DU.
Alla i dderbyn gofal iechyd?
Gallwch. Gall ceiswyr lloches gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd y GIG.
All fy mhlant fynychu’r ysgol?
Gallant. Mae gan blant o oedran ysgol gorfodol hawl i fynychu’r ysgol.
Alla i ddysgu Saesneg?
Gallwch. Efallai bod cyrsiau Saesneg ar gael trwy ddarparwyr addysg lleol a sefydliadau cymunedol.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Gall cefnogaeth gynnwys llety, cymorth ariannol, mynediad at ofal iechyd, cefnogaeth gydag addysg a gweithgareddau integreiddio cymunedol.