Bwriad y Cwestiynau Cyffredin hyn yw darparu trosolwg cytbwys o’r broses geisio lloches a hawliau a chyfrifoldebau ceiswyr lloches tra byddant yn aros am benderfyniad gan y Swyddfa Gartref.
Cipolwg ar y Ffeithiau Allweddol
- Mae ceiswyr lloches yn bobl sy’n aros am benderfyniad am eu cais am amddiffyniad.
- Mae ganddynt hawl cyfreithiol i aros yn y DU tra bydd eu cais yn cael ei ystyried.
- Ni chaiff y rhan fwyaf ohonynt weithio tra byddant yn aros am benderfyniad.
- Gellir rhoi llety a chymorth ariannol sylfaenol iddynt os byddent yn ddiymgeledd fel arall.
- Bydd ceiswyr lloches cymwys yn cael llety a chymorth ariannol sylfaenol tra byddant yn aros am benderfyniad. Mae’r rhan fwyaf yn cael £49.18 y person yr wythnos ar gerdyn ASPEN i dalu am gostau byw hanfodol.
- Gallant gael gafael ar ofal iechyd, a gall y plant fynd i’r ysgol.
- Rhaid iddynt gydymffurfio â chyfreithiau’r DU a chymryd rhan yn y broses geisio lloches.
content
Ceisiwr lloches yw unigolyn sydd wedi gofyn i Lywodraeth y DU am amddiffyniad gan eu bod yn ofni erlyniad, trais neu niwed difrifol yn eu mamwlad. Maent yn parhau i fod yn geiswyr lloches hyd nes i’r Swyddfa Gartref wneud penderfyniad ar eu cais.
content
Gall bobl geisio lloches gan eu bod yn ofni erlyniad yn sgil ffactorau megis eu hil, crefydd, cenedligrwydd, barn wleidyddol neu aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol. Gall rai hefyd fod mewn risg o niwed difrifol os byddent yn dychwelyd i’w gwlad.
content
Mae’r Swyddfa Gartref yn asesu bob cais trwy broses sydd fel arfer yn cynnwys cofrestru, cyfweliadau, casglu tystiolaeth a phenderfyniad ffurfiol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gan yr ymgeisydd hawl cyfreithiol i aros yn y DU tra bod eu cais yn cael ei ystyried.
content
Yn gyffredinol, na. Ni all unigolyn gyda chais lloches sy’n mynd rhagddo, gael eu dychwelyd i’w mamwlad nes i’r Swyddfa Gartref wneud penderfyniad ar eu cais.
content
Gall rai ceiswyr lloches dderbyn llety os byddent yn ddigartref fel arall, neu os nad allent gefnogi eu hunain. Darperir llety gan y Swyddfa Gartref a gall gynnwys tŷ a rennir, gwesty neu lety dros dro arall, yn dibynnu ar argaeledd ac angen.
content
Gall rai ceiswyr lloches sydd methu diwallu anghenion byw sylfaenol, fod yn gymwys am gymorth ariannol gan y Swyddfa Gartref tra bod eu cais yn cael ei ystyried. Bwriad y cymorth hwn yw talu am gostau byw hanfodol.
content
Gall ceiswyr lloches sy’n gymwys am gymorth gan y Swyddfa Gartref a heb ddigon o arian i gefnogi eu hunain, dderbyn lwfans wythnosol wedi’i lwytho ar gerdyn ASPEN, a ellir ei ddefnyddio mewn siopau a pheiriannau twll yn y wal.
Y cyfraddau cyfredol yw:
- £49.18 yr wythnos fesul person yn yr aelwyd os ydynt yn gyfrifol am brynu a pharatoi eu bwyd eu hunain.
- £9.95 yr wythnos fesul person os yw’r llety’n darparu’r holl brydau
- Mae taliadau ychwanegol ar gael ar gyfer merched beichiog a phlant ifanc:
- £5.25 yr wythnos ar gyfer mamau beichiog.
- £9.50 yr wythnos ar gyfer babanod o dan 1 oed.
- £5.25 yr wythnos ar gyfer plant 1 i 3 oed.
Nod y cymorth hwn yw talu am eitemau hanfodol megis bwyd, dillad, nwyddau ymolchi, teithio, costau cyfathrebu ac anghenion byw dyddiol sylfaenol eraill.
content
Ni chaniateir i fwyafrif y ceiswyr lloches weithio tra bod eu cais yn cael ei ystyried. Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gallent wneud cais am ganiatâd i weithio os ydynt wedi bod yn aros am benderfyniad am fwy na 12 mis ac os nad eu cyfrifoldeb nhw yw’r oedi.
content
Gallent. Gall geiswyr lloches wirfoddoli wrth aros am benderfyniad ar eu cais. Mae gwirfoddoli yn galluogi pobl i gyfrannu tuag at eu cymuned, ennill profiad a datblygu sgiliau.
content
Gallent. Gall bobl sy’n ceisio lloches gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd y GIG tra bod eu cais yn cael ei ystyried. Mae hyn yn cynnwys cofrestru gyda meddyg teulu a chael mynediad at driniaeth feddygol angenrheidiol.
content
Gallent. Mae gan blant yr hawl i gael mynediad at addysg tra bod cais lloches eu teulu yn cael ei brosesu. Disgwylir presenoldeb ysgol yn yr un modd â phlant eraill sy’n byw yn y DU.
content
Ydynt. Nid yw mwyafrif y ceiswyr lloches yn cael eu cadw’n gaeth, ac maent yn rhydd i fyw yn eu llety a symud o amgylch eu cymuned leol tra bod eu cais yn cael ei ystyried.
content
Oes. Rhaid iddynt gydweithredu gyda’r Swyddfa Gartref, mynychu apwyntiadau a chyfweliadau, darparu gwybodaeth gywir, cadw eu manylion yn gyfredol, a chadw ar gyfreithiau’r DU.
content
Os yw’r Swyddfa Gartref yn cymeradwyo statws ffoadur neu ffurf arall o amddiffyniad, gall yr unigolyn fel arfer aros yn y DU, gweithio, astudio a chael mynediad at fudd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus yn unol â’u statws mewnfudo.
content
Os gwrthodir y cais, gall yr unigolyn gael yr hawl i herio’r penderfyniad neu gyflwyno mwy o dystiolaeth, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau. Os yw holl ddewisiadau cyfreithiol wedi cael eu defnyddio, bydd yn ofynnol iddynt adael y DU.
content
Mae’r system ceisio lloches yn bodoli i ddarparu amddiffyniad i bobl a all fod mewn risg o erlyniad neu niwed difrifol. Gall ddeall y broses helpu i sicrhau bod trafodaethau’r cyhoedd yn cael ei hysbysu gan ffeithiau a gofynion cyfreithiol yn hytrach na chamsyniadau.