Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Free Public Wifi

Wifi Am Ddim i'r Cyhoedd


Summary (optional)
start content

Mae wifi am ddim ar gael ar draws y rhan fwyaf o safleoedd Cyngor Conwy, ac mewn rhai ardaloedd y tu allan – ac eithrio Venue Cymru sydd â’u trefniadau eu hunain. 

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth wifi drwy ddewis “Amddim_Conwy_Free” o unrhyw leoliad y mae ar gael.

Mae contract y Cyngor gyda’r North sydd wedi dewis Purple Wi-Fi i ddarparu eich gwasanaethau Wi-Fi rhad ac am ddim yn ddiogel a gan gydymffurfio gyda deddfwriaeth diogelu data. Mae manylion ynghylch sut mae system Purple yn rheoli data a diogelwch ar gael yma. Cyn defnyddio’r gwasanaeth mae defnyddwyr sy’n cysylltu yn gorfod rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’r data. Mae polisi preifatrwydd Purple a gwybodaeth am sut i wneud cais am unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch ar gael ar dudalennau mewngofnodi’r porth.

Fel y gofyniad lleiaf dim ond cyfeiriad e-bost y gofynnir i ddefnyddwyr ei ddarparu cyn cael mynediad i’r gwasanaeth hwn.  Fe all defnyddwyr ddewis darparu gwybodaeth ychwanegol fel enw llawn neu ddyddiad geni. Mae’r system hefyd yn casglu cyfeiriad MAC (dynodwr unigryw) y ddyfais sy’n cysylltu at ddibenion diogelu a diogelwch. Fe all y Cyngor wedyn ddefnyddio’r data hwn er enghraifft i ddadansoddi sawl gwaith y caiff y gwasanaeth Wi-Fi am ddim ei ddefnyddio mewn lleoliadau penodol, yr amseroedd cysylltu mwyaf poblogaidd neu’r lleoliadau mwyaf poblogaidd.  Ni ellir gweld unrhyw wybodaeth bersonol yn yr adroddiadau hyn a gasglwyd.

Os yw defnyddiwr y gwasanaeth Wi-Fi am ddim wedi ticio i roi caniatâd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol, yna mae’n bosibl y bydd y wybodaeth hon hefyd yn cael ei defnyddio ar ffurf ddienw i adrodd ar nodweddion demograffig fel ystod oedran, rhyw neu ddiddordebau fel “chwaraeon”, “theatr” neu ”ffilm.”  Dim ond swyddogion dynodedig y Cyngor sydd â mynediad at y wybodaeth ddienw yma.

Mae’n bosibl y bydd y Cyngor wedyn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â defnyddwyr, os ydynt wedi caniatáu hynny, drwy e-bost neu neges destun gyda gwybodaeth berthnasol e.e. digwyddiadau yn y dyfodol, gwasanaethau neu gynigion arbennig.  Caiff unrhyw wybodaeth sy’n adnabyddadwy ei dileu’n awtomatig oddi ar system Purple 13 mis ar ôl i’r defnyddiwr roi’r gorau i gysylltu â’r gwasanaeth.

Fel rhan o’r gwasanaeth wifi am ddim, mae categorïau penodol o wefannau yn cael eu blocio at ddibenion diogelu a diogelwch, ac mae’r rhain wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor.

Nid oes unrhyw gofnodion o weithgarwch ar y rhyngrwyd tra’n defnyddio’r gwasanaeth Wi-Fi am ddim yn cael ei storio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy na gan ein partneriaid.

end content