Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gweld Lluniau Camerâu


Summary (optional)
Dylid gwneud cais i weld data Camerâu Goruchwylio Mannau Cyhoeddus i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
start content

Os yw'r fideo Camerâu Goruchwylio yn cynnwys 'data personol' a'i fod yn dangos unrhyw unigolyn y gellir ei (h)adnabod, yna, bydd yn cael ei reoli gan y Ddeddf Diogelu Data a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). . Mae gennych chi hawl i weld lluniau ohonoch chi eich hun (data personol) sydd efallai wedi'i recordio ar system Camerâu Goruchwylio.

Pan fydd unigolyn yn gofyn am weld data personol amdanynt sydd wedi ei gadw, bydd yn rhaid iddynt lenwi ffurflen gais Gwybodaeth Bersonol. Bydd rhaid i'r unigolyn hwnnw / honno (gwrthrych y data) ddangos prawf o bwy ydynt a chyflwyno dogfennau gwreiddiol. Mae copi o'r ffurflen gais i gael gweld Gwybodaeth Bersonol ar gael o'r Uned Rheoliadau Gwybodaeth.

Dim ond am 31 diwrnod y bydd y fideo'n cael ei gadw a bydd yn cael ei ddileu ar ddiwedd y cyfnod hwn.

Os gofynnir am fideo sy'n dangos digwyddiad ac nid yw'n bosibl adnabod unigolyn, bydd yn cael ei ddarparu, ond byddwn yn codi tâl am y gwasanaeth hwn fel y nodwyd yn y cynllun cyhoeddi trwy glicio ar y ddolen hon. Y ffioedd perthnasol yw:

  •  £85 yr awr a TAW (neu am ran o'r awr) i weld y recordiad      a,
  •  £85 a TAW am gopi o'r ddisg

 

Gweld Lluniau Camerâu Goruchwylio

Anfonwch gais ysgrifenedig i gael rhyddhau data at:
Adain Camerâu Goruchwylio Mannau Cyhoeddus
Y Gwasanaeth Rheoleiddio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â:

E-bost: info-gov.unit@conwy.gov.uk

Rhif Ffôn: (01492) 574016

end content