Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hwb - Llywodraethwyr Ysgol Conwy


Summary (optional)
start content

Hwb ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol

Yng Nghonwy, y polisi yw bod Llywodraethwyr yn derbyn negeseuon e-bost gan yr Awdurdod Lleol trwy rwydwaith Hwb Llywodraeth Cymru yn unig. Hwb yw’r platfform digidol i ddysgu ac addysgu yng Nghymru. Mae’n rhoi mynediad i ddefnyddwyr i ystod o adnoddau dwyieithog a digidol wedi’u hariannu’n ganolog. Mae Hwb yn rhoi mynediad at:

  • y Cwricwlwm i Gymru 2022
  • y Cwricwlwm i Gymru 2008
  • gwybodaeth broffesiynol am ddysgu
  • miloedd o adnoddau dwyieithog
  • gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein

Fel Llywodraethwr, gall eich clerc roi cyfrif Hwb i chi a fydd hefyd yn caniatáu i chi ddefnyddio “Microsoft Office 365” a “Google for Education” am ddim.  Mae manylion am weld eich negeseuon e-bost ar Hwb i'w gweld yma.

Mae Hwb yn cael ei ddefnyddio gan Gonwy i storio ystod o ddogfennau a pholisïau i helpu ysgolion i greu eu hadnoddau eu hunain ar eu Mewnrwyd Addysg. Yma, hefyd, gall Llywodraethwyr gael mynediad i Hwb Llywodraethwyr Conwy. Mae manylion am ddefnyddio Hwb Conwy i’w gweld yma.

Bydd angen mewngofnodi gydag enw defnyddiwr a chyfrinair – cysylltwch â’ch clerc os nad yw'r manylion yma gennych.

end content