Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Alergenau Bwyd


Summary (optional)
Mae angen i fusnesau bwyd hefyd ddarparu gwybodaeth am unrhyw rai o'r 14 alergen hyn a ddefnyddir fel cynhwysion ar gyfer unrhyw fwyd neu ddiod a werthir heb ddeunydd pecynnu neu a gaiff ei lapio ar y safle.
start content

Hawliau Alergedd - beth mae'r gyfraith yn ei olygu i chi

O dan gyfraith yr UE, rhaid i unrhyw fwyd neu ddiod wedi’i becynnu ymlaen llaw a werthir yn y DU ddatgan yn glir ar y label os yw'n cynnwys y cynhwysion canlynol:

  • seleri
  • grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten (gan gynnwys gwenith, rhyg, barlys a cheirch)
  • cramenogion (gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid)
  • wyau
  • pysgod
  • bysedd y blaidd (mae bysedd y blaidd yn blanhigion gardd cyffredin, ac mae'r hadau o rai mathau yn cael eu defnyddio weithiau i wneud blawd)
  • llefrith
  • molysgiaid (gan gynnwys cregyn gleision ac wystrys)
  • mwstard
  • cnau coed - fel almonau, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashiw, cnau pecan, cnau pistasio, a chnau macadamia.
  • cnau mwnci / pysgnau
  • hadau sesame
  • ffa soia
  • sylffwr deuocsid a sylffitau (cadwolion a ddefnyddir mewn rhai bwydydd a diodydd)

Mae angen i fusnesau bwyd hefyd ddarparu gwybodaeth am unrhyw rai o'r 14 alergen hyn a ddefnyddir fel cynhwysion mewn unrhyw fwyd neu ddiod a gaiff eu gwerthu heb ddeunydd pecynnu neu a gaiff eu lapio ar y safle. Gall aelod o’r staff naill ai ddweud wrthych chi am y wybodaeth hon neu ei rhoi i chi ar bapur. Lle nad yw'r wybodaeth alergen penodol yn cael ei darparu ymlaen llaw, rhaid nodi’n glir yn lle y gellir cael gafael ar y wybodaeth hon.

Mae'r rheolau gwybodaeth am alergenau yn golygu:

  • y gallwch ofyn am wybodaeth am yr 14 alergen, os cânt eu defnyddio fel cynhwysyn yn y bwyd rydych chi’n ei brynu, pan fyddwch yn bwyta allan
  • y byddwch yn gweld cynhwysion alergenig wedi eu hamlygu (er enghraifft, gan ddefnyddio print bras, italig neu liwiau) ar fwydydd wedi’u pacio'n barod.

Ddim yn cael y wybodaeth gywir am alergenau?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i fusnesau bwyd ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer 14 o alergenau penodol. Os gofynnwch chi am y wybodaeth hon a’u bod yn methu â’i darparu, gallwch siarad â rheolwr y busnes bwyd, ac os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gallwch roi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Cofrestru i gael rhybuddion alergenau

Gallwch gofrestru yma i gael neges e-bost neu neges destun am ddim bob tro y mae’r ASB yn cyhoeddi rhybudd alergedd am gynnyrch bwyd, gyda gwybodaeth am beth i'w wneud os ydych wedi ei brynu.

end content