Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Diogelwch Bwyd Rhoi gwybod am fater diogelwch bwyd

Rhoi gwybod am fater diogelwch bwyd


Summary (optional)
Os oes gennych gŵyn am unrhyw fwydydd neu ddiodydd rydych chi wedi’u prynu, gallwch gwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy os ydych chi wedi prynu'r bwyd yn yr ardal. Neu os ydych chi’n rhedeg busnes, gallwch roi gwybod am broblem i ni.
start content

Cwynion am fwyd

O bryd i'w gilydd fe allech chi brynu, bwyta neu yfed eitem o fwyd neu ddiod nad yw’n cyrraedd eich disgwyliadau. Bydd Cyngor Conwy yn ymchwilio i gwynion am fwyd mewn perthynas â bwyd a brynwyd o fewn y sir. 

Weithiau, fe allai’r bwyd fod wedi’i gynhyrchu yng Nghonwy a’i werthu mewn sir arall, neu fe allai un o drigolion Conwy fod wedi prynu eitem o fwyd y tu allan i Gonwy a bod eisiau gwneud cwyn amdano. Yn y ddwy enghraifft hyn, gall Conwy gysylltu â'r awdurdod perthnasol i hwyluso materion. 

Nodwch mai dim ond i gwynion sy'n peri risg i iechyd y byddwn yn ymchwilio. Os yw eich cwyn yn ymwneud â bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu os ydych chi wedi canfod pethau diarth yn y  cynnyrch sy’n gynhenid iddo, yna cysylltwch â'r siop, y gwneuthurwr neu’r cyflenwr lle prynwyd y nwyddau. 

Cyn i chi wneud cwyn

Mewn llawer o achosion, mae modd datrys eich cwyn trwy drafod y mater gyda'r siop, y busnes bwyd ac ati. Ar y cyfan, mae’n bryder i’r busnesau eich bod wedi dod o hyd i broblem a byddant yn gwneud eu gorau i ddatrys y mater. Rydym yn argymell mai dyma ddylech chi ei wneud fel cam cyntaf, yn enwedig os yw'r bwyd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu os ydych chi’n canfod pethau dieithr yn y bwyd sy’n gynhenid iddo.

Cwynion am safleoedd bwyd

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am fusnes bwyd penodol, e.e. os ydych chi wedi arsylwi arferion hylendid bwyd gwael, safonau gwael o lendid neu os ydych chi’n credu bod busnes yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd anghywir neu os nad oes ganddo sticer o gwbl, yna gallwch lenwi'r ffurflen uchod hefyd. 

Yn ogystal, dylid rhoi gwybod am unrhyw gwynion am fwyd sydd ddim yn cydymffurfio â gofynion labelu neu fwydydd sy’n cael eu cam-ddisgrifio neu sydd wedi llygru.

Sylwch ei bod yn bolisi gan Gyngor Conwy i beidio ag ymchwilio i gwynion dienw, ond byddwn yn cadw unrhyw fanylion personol y byddwch yn eu rhoi yn gyfrinachol.

end content