Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwenwyn bwyd


Summary (optional)
start content

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael gwenwyn bwyd, bydd angen i'ch meddyg teulu gadarnhau hyn cyn y gallwn ni fynd ati i ymchwilio. Dylech fynd i weld eich meddyg teulu cyn gynted ag y gallwch chi, a gwneud nodyn o’r holl fwyd rydych chi wedi’i fwyta yn y 7 diwrnod cyn mynd yn sâl. Bydd angen y wybodaeth hon arnom ni os bydd canlyniad eich prawf yn cadarnhau eich bod wedi cael gwenwyn bwyd.

Cofiwch nad y pryd olaf i chi ei fwyta sydd o reidrwydd wedi achosi eich symptomau. 

Beth fyddwn ni ei angen gennych chi

Er mwyn ymchwilio i achos o wenwyn bwyd, byddwn yn:

  • gofyn i chi am sampl o’ch ysgarthion i’ch meddyg teulu ei brofi, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi gweld eich meddyg teulu neu wedi bod yn yr ysbyty, ac na wnaethon nhw ofyn am sampl. Dyma’r unig ffordd y gallwn ni fod yn siŵr eich bod wedi cael gwenwyn bwyd.
  • gofyn i chi am y bwyd y gwnaethoch chi ei fwyta, yn fwyd wedi’i baratoi gartref ac yn fwyd o fwytai, siopau bwyd i fynd ac ati.
  • gofyn i chi am eich gwaith a rhoi cyngor i chi os ydych chi’n gweithio gyda bwyd neu gyda phobl ddiamddiffyn

Os nad ydych chi’n fodlon (neu os na allwch chi) roi sampl, allwn ni ddim cymryd camau pellach gan na fydd gennym ni unrhyw dystiolaeth i fynd ag achos yn ei flaen. Fodd bynnag, byddwn yn cofnodi’r manylion a gawn gennych chi rhag ofn i ni sylwi ar unrhyw batrwm yn yr adroddiadau hyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • os na chanfyddir unrhyw facteria yn eich sampl, bydd eich symptomau’n cael eu cysylltu â ffynhonnell arall, e.e. firws neu gyflwr meddygol arall.
  • os bydd eich sampl yn dangos eich bod wedi cael gwenwyn bwyd, ac mae’ch hanes yn dangos y gellid cysylltu eich salwch â busnes bwyd yn ardal Conwy, byddwn yn ymchwilio ymhellach i hyn
  • os yw’n bosib eich bod wedi cael gwenwyn bwyd o eiddo y tu allan i ardal Conwy, byddwn yn cysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol ar eich rhan 

Os ydych chi'n gweithio gyda bwyd neu bobl ddiamddiffyn

Os ydych chi’n gweithio gyda bwyd, pobl hŷn neu blant ifanc neu bobl sy’n sâl, mae’n bwysig i chi gymryd y camau canlynol (hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr ai gwenwyn bwyd yw’r rheswm dros eich symptomau ai peidio)

  • rhowch wybod i’ch cyflogwr am eich salwch ar unwaith a dilynwch unrhyw ganllawiau a gewch ganddynt
  • peidiwch â mynd i'ch gwaith nes bydd eich symptomau wedi dod i ben ers o leiaf 48 awr (neu fwy os yw’ch cyflogwr yn nodi hynny)
  • rhowch wybod i’ch cyflogwr cyn dychwelyd i’ch gwaith
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal safonau hylendid personol uchel ar ôl dychwelyd i’ch gwaith, gan y gallech chi basio’r haint ymlaen am sawl wythnos

Achosion gwenwyn bwyd

Achosir gwenwyn bwyd fel arfer drwy fwyta bwyd sydd wedi’i halogi gan facteria, neu’r gwenwyn y mae bacteria’n ei gynhyrchu. Mae sawl gwahanol facteria sy’n achosi gwenwyn bwyd, a phob un yn achosi symptomau sy’n wahanol o ran natur a difrifoldeb.

Y symptomau mwyaf cyffredin yw dolur rhydd a chyfogi (er ei bod yn bosib mai dim ond un o’r rhain y byddwch chi’n eu dioddef).

Gall yr amser y mae’n ei gymryd rhwng bwyta bwyd wedi’i halogi a datblygu’r symptomau amrywio, ond fel arfer, bydd rhwng 24 a 72 awr. Gelwir y cyfnod hwn yn gyfnod magu'r clefyd.

Prif achosion gwenwyn bwyd yw:

  • paratoi bwyd ormod ymlaen llaw
  • peidio coginio bwyd yn iawn
  • peidio dadmer bwyd yn iawn
  • storio bwyd yn anghywir, sy’n galluogi bacteria i dyfu
  • croes-halogi bwydydd ar ôl eu coginio
  • haint gan bobl sy’n trin bwyd o ganlyniad i hylendid gwael

Mae pobl yn dioddef dolur rhydd ac/neu'n cyfogi am nifer o wahanol resymau. Gastro-enteritis firysol yw’r enw a roddir ar ddolur rhydd a chyfogi a achosir gan gyswllt â gronynnau firws allai fod mewn bwyd, yn yr amgylchedd ac mewn pobl eraill â’r un symptomau. Mae’r cyfnod magu clefyd ar gyfer gastro-enteritis firysol yn llai – 24 awr neu lai fel arfer.

Lle galla' i gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o wenwyn bwyd?

Darllenwch y canllawiau a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dewisiadau GIG i gael rhagor o wybodaeth.

end content