Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ystyried symud i dai gwarchod, tai gofal ychwanegol neu i gartref gofal, gallwn eich helpu i ystyried eich opsiynau.
Tai gwarchod
Os ydych yn 55 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am dŷ gwarchod. Mae'r math hwn o dŷ fel arfer yn cynnwys fflatiau stiwdio, fflatiau un neu ddwy ystafell wely neu fyngalos. Mae'r cartrefi hyn yn cael eu cysylltu â system larwm argyfwng 24 awr.
Mae gan dai gwarchod wardeiniaid dynodedig, sy'n rhoi cyngor, yn gwneud yn siŵr eich bod yn ymdopi, yn eich helpu i drefnu unrhyw help rydych ei angen, ac yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau
Gall tai gwarchod eich helpu i fyw'n annibynnol, a’ch cyflwyno i gymuned. Mae gan rai weithgareddau cymunedol a lolfeydd cymunedol fel y gall pobl gael cwmni os ydynt yn dymuno hynny, a phreifatrwydd pan nad ydynt eisiau hynny.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 124 0050
Tai gofal ychwanegol
Mae tai gofal ychwanegol yn rhoi cyfle i bobl dros chwe deg fyw yn eu cartref eu hunain ac i gael cefnogaeth gan dîm pwrpasol ar y safle 24 awr y dydd.
Rydych yn byw yn eich eiddo hunangynhwysol eich hun, nid mewn cartref preswyl, ac mae gennych eich drws ffrynt eich hun, fel y gallwch benderfynu pwy sy'n dod i mewn.
Gallwn asesu eich anghenion i weld a ydych chi'n gymwys i gael cymorth ac os ydych chi, byddwch chi'n derbyn hwn gan y tîm ar y safle.
Manteision tai gofal ychwanegol:
- gall cyplau a ffrindiau aros gyda'i gilydd
- gallwch gadw eich annibyniaeth
- gallwch ymuno mewn gweithgareddau cymdeithasol
- mae gennych reolaeth dros eich arian
- mae gennych sicrwydd a thawelwch meddwl
- mae gennych gartref am oes cyn belled â'i fod yn ddiogel ac yn ymarferol
Mae pedwar cynllun tai gofal ychwanegol yng Nghonwy sy’n cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai lleol mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol:
Cartrefi gofal
Mae cartrefi gofal yn darparu llety cyfforddus gyda staff hyfforddedig wrth law i ofalu am eich anghenion ddydd a nos.
Mae dau fath o gartref gofal:
- Cartrefi gofal preswyl gyda staff hyfforddedig sy'n gallu cynnig yr un math o ofal y byddech yn ei gael gan eich perthnasau a’ch ffrindiau.
- Cartrefi nyrsio sy'n darparu'r un lefel o ofal â chartrefi gofal preswyl, ond hefyd â nyrsys hyfforddedig ar ddyletswydd i ddarparu gofal nyrsio medrus pan fyddwch ei angen.
Dychwelyd i'r brif ddewislen