Mae tai cymdeithasol yn Sir Conwy yn eiddo i sefydliadau dielw o'r enw cymdeithasau tai.
Mae cymdeithasau tai yn rhentu tai i bobl na allant fforddio prynu eu cartref eu hunain, na allant fforddio rhentu gan landlord preifat, neu sydd angen cartref gydag addasiadau arbennig.
Dim ond un cofrestr sydd yng Nghonwy, ond mae chwe cymdeithas tai. Y rhain yw:
I wneud cais i fynd ar y gofrestr tai cysylltwch ag Datrysiadau Tai Conwy. Mae Datrysiadau Tai Conwy yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chartrefi Conwy. Mae'r tîm yn helpu pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref a phobl sydd angen gwneud cais am dai cymdeithasol.
Ffoniwch Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050.
Byddwn yn siarad efo chi am eich anghenion tai, incwm, cynilion a chysylltiad â Chonwy. Byddwn yn gofyn ble rydych chi eisiau byw, pwy fydd yn byw gyda chi, a pa fath o gartref sydd ei angen arnoch chi, fel fflat neu dŷ.
Mae’r rhent ar gyfer tai cymdeithasol yn cael ei osod gan reolau’r llywodraeth. Mae'r rhent yn fforddiadwy fel arfer, i bobl ar incwm isel.
Y gofrestr tai a bandiau
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol, byddwn yn eich rhoi ar y gofrestr tai mewn band blaenoriaeth yn dibynnu ar eich sefyllfa.
Fel arfer, diffiniad cysylltiad lleol yw:
- byw neu weithio yn y sir, neu
- ag aelodau agos o’r teulu sydd wedi ymsefydlu yn sir
Am ragor o wybodaeth ar reolau cymhwysedd ar gyfer tai cymdeithasol, gweler y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol.
content
Rydych mewn angen brys o ran cael tŷ os:
- Oes gennych angen meddygol brys, er enghraifft, rydych yn yr ysbyty, ac nid oes modd i chi ddychwelyd i'ch cartref presennol
- Oes angen i chi symud ar frys i eiddo sydd wedi’i addasu
- Yw eich cartref wedi cael ei ddifrodi mewn tân neu oherwydd llifogydd
- Rydych yn ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog
- Rydych yn berson ifanc sy’n gadael gofal, neu byddai angen i chi fynd i ofal fel arall
- Rydych yn denant ar hyn o bryd gyda gormod o ystafelloedd gwely, ac yn fodlon cymryd eiddo llai
- Rydych yn denant mewn eiddo wedi’i addasu ar hyn o bryd, ond nid oes ei angen bellach ac rydych yn fodlon symud
- Rydych yn ddigartref oherwydd eich bod wedi ffoi oherwydd trais neu’r perygl o drais (nid oes angen i chi gael cysylltiad lleol)
- Mae gennych achosion eithriadol arall o angen dybryd
content
Rydych mewn angen o ran tai os:
- Rydych yn anfwriadol ddigartref
- Mae gennych angen meddygol difrifol sy'n cael ei waethygu gan eich tŷ
- Rydych yn byw mewn tŷ gorlawn neu o ansawdd gwael iawn
- Nid oes gan eich eiddo gyfleusterau hanfodol megis tŷ bach
- Mae angen eiddo wedi’i addasu arnoch, ond nid oes modd i chi drefnu’r addasiadau eich hun
- Rydych yn dioddef caledi oherwydd eich tŷ – er enghraifft, os oes angen i chi symud i gael cefnogaeth hanfodol
content
Rydych mewn angen brys o ran tai os:
- Oes gennych angen meddygol brys, er enghraifft, rydych yn yr ysbyty, ac nid oes modd i chi ddychwelyd i'ch cartref presennol
- Oes angen i chi symud ar frys i eiddo sydd wedi’i addasu
- Yw eich cartref wedi cael ei ddifrodi mewn tân neu oherwydd llifogydd
- Rydych yn ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog
- Rydych yn berson ifanc sy’n gadael gofal, neu byddai angen i chi fynd i ofal fel arall
- Mae gennych achosion eithriadol arall o angen dybryd
content
Bydd hyn yn gymwys os:
- Ydych chi’n cael eich ystyried yn anfwriadol ddigartref
- Mae gennych angen meddygol difrifol sy'n cael ei waethygu gan eich tŷ
- Rydych yn byw mewn tŷ gorlawn neu o ansawdd gwael iawn
- Nid oes gan eich eiddo gyfleusterau hanfodol megis tŷ bach
- Mae angen eiddo wedi’i addasu arnoch ond nid oes modd i chi drefnu’r addasiadau eich hun
- Rydych yn dioddef caledi oherwydd eich tŷ – er enghraifft, os oes angen i chi symud i gael cefnogaeth hanfodol
- Mae’r Cyngor lleol yn ystyried eich bod yn anfwriadol ddigartref (gyda neu heb gysylltiad lleol)
Byddwn yn blaenoriaethu ymgeiswyr ymhob band yn ôl trefn y dyddiad a wnaed y cais. Os oes gan y gymdeithas tai dŷ gwag yng Nghonwy, byddant yn cynnig tenantiaeth i’r sawl sydd ar frig y rhestr ar gyfer yr ardal honno.
Yn anffodus, nid oes digon o dai cymdeithasol i bawb sydd ar y gofrestr tai. Efallai bydd angen i chi aros rhai blynyddoedd cyn cael eiddo. Byddwn yn rhoi cyngor i chi am y dewisiadau eraill sydd ar gael o ran tai a allai fodloni eich anghenion.
Cyfnewid cartrefi
Mae HomeSwapper yn rhoi cyfle i’r rhan fwyaf o denantiaid Cymdeithas Tai a Chyngor gael cyfnewid eiddo. Cyn i chi gofrestru gyda HomeSwapper, bydd arnoch angen trafod â'ch landlord.
Os ydych chi'n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, darganfyddwch sut y gallwn ni helpu i atal digartrefedd
.
Nesaf: Tai i bobl ifanc