Mae cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor. Rydym am i bobl yng Nghonwy gael mynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywydau.
Rydym wedi cynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol sy’n ein helpu i ddeall yr angen am dai yn lleol. Rhoddodd yr asesiad y wybodaeth i ni ddatblygu ein Strategaeth Tai Lleol, sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer mynd i’r afael â materion yn ymwneud â thai yng Nghonwy dros y pum mlynedd nesaf.
Mae tai canolradd yn helpu pobl gael tai fforddiadwy pan nad oes modd iddynt ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt yn sector preifat.
Am fod gan aelwydydd wahanol amgylchiadau a lefelau incwm amrywiol, mae cynlluniau tai fforddiadwy yn cynnig amrediad o ddewisiadau. Mae yna ddau fath o dŷ canolradd ar gael:
- Tai rhent canolradd
- Perchnogaeth tai canolradd
Ewch i Tai Teg i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.
Nesaf: Tai cymdeithasol