Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adborth Ymgynghoriad


Summary (optional)
Crynodeb o adborth ymgynghoriad ar drefn y ffyrdd a gwelliannau i’r promenâd yn Llandrillo yn Rhos
start content

Manylion yr ymgynghoriad


Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar drefn y ffyrdd a gwelliannau i’r promenâd o ddydd Gwener 26 Awst i ddydd Gwener 9 Medi, gyda fersiwn ar-lein a phedwar diwrnod agored i’r cyhoedd yn swyddfa’r safle ar bromenâd Llandrillo-yn-Rhos.

Roedd deunyddiau’r ymgynghoriad yn egluro’r rhesymau dros gynnig newidiadau i drefn y ffyrdd, gan roi gwybodaeth ar agweddau budd cymunedol y cynllun sydd angen promenâd lletach. Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd chwarae, gwelliannau i ddiogelwch y ffordd, llwybr i gerddwyr yn unig, gwell llwybr Teithio Llesol a gwelliannau iechyd a hamdden.

Roedd gwybodaeth yr ymgynghoriad yn cynnwys adolygiad o’r dewisiadau trefn ffyrdd oedd ar y rhestr hir a’r rhestr fer ar gyfer eu hystyried gan y tîm prosiect, yn cynnwys dewisiadau a awgrymwyd gan y gymuned. Cafodd pob dewis oedd ar y rhestr fer eu hasesu o ran effaith gymdeithasol, effaith ar gerddwyr a beicwyr, effaith ar gerbydau a chludiant cyhoeddus a’r effaith ar yr amgylchedd.

Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i’r gymuned ystyried y cynigion o ran trefn y ffyrdd yng nghyd-destun y cynllun cyfan. Gan gydnabod yr ystod o safbwyntiau, gofynnwyd i breswylwyr roi adborth ar yr hyn oedd yn bwysig iddynt.

Ymatebion i'r ymgynghoriad


Cyflwynwyd 390 o ymatebion yn y dyddiau agored i’r cyhoedd a 304 drwy ein hymgynghoriad ar-lein. Mae hyn yn gyfanswm o 694 o ymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad.

Rhoddodd y ffurflenni adborth gyfle i bobl ddweud wrthym pa mor bwysig oedd agweddau o’r cynllun iddynt. Rhoddwyd sgôr allan o 10 i bob agwedd, 10 yn bwysig iawn a 0 ddim yn bwysig o gwbl.

Rydym wedi cyfuno’r adborth ac wedi gosod yr agweddau yn ôl y sgôr gyfartalog a gawsant:

  1. Llwybr i gerddwyr yn unig ar hyd y wal fôr
  2. Llwybr Teithio Llesol gwell
  3. Manteision hamdden ac iechyd newydd
  4. Mannau parcio diogel yn agos i’r traeth
  5. Effaith y cynllun traffig newydd ar Bromenâd y Cayley
  6. Y celfyddydau a diwylliant
  7. Promenâd y gorllewin yn parhau’n ddwyffordd i draffig
  8. Mannau chwarae


Fe wnaethom ofyn i bobl roi sylwadau ar drefn y ffyrdd a gwelliannau i’r promenâd hefyd. Dywedodd rhai pobl eu bod yn bryderus am ddiogelwch a goblygiadau ar lif traffig wrth symud rhywfaint o’r traffig o Bromenâd y Gorllewin i fyny at Bromenâd y Cayley.

Ymhlith yr adborth arall a gafwyd oedd cais am doiledau cyhoeddus a chawod neu le golchi traed ar y traeth.

Mae’r tîm prosiect wedi ystyried yr holl adborth a roddwyd a byddant yn edrych ar welliannau a awgrymwyd i’r cynlluniau.

Y camau nesaf


Bydd adroddiad yn mynd gerbron Cabinet y Cyngor ar 8 Tachwedd i benderfynu ar gynllun terfynol. Wedi hyn, bydd ar rai newidiadau, megis llinellau melyn dwbl, angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig cyn y gall y gwaith ddechrau.

 

end content