Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Croeso


Summary (optional)
start content

Dyma Gam 2b Prosiect Glan Môr Bae Colwyn, sydd wedi bod yn gwellaamddiffynfeydd arfordirol a mannau cyhoeddus ar hyd arfordir Bae Colwyn ers 2011.

 

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 9 Medi 2022

Darllenwch adborth yr ymgynghoriad

beachRydym yn gwella'r amddiffynfeydd arfordirol drwy fewnforio oddeutu 1 miliwn tunnell o dywod i'w osod o flaen y morglawdd presennol. Bydd hyn yn amddiffyn y morglawdd a'r eiddo a'r seilwaith y tu ôl iddo rhag bygythiad parhaus y môr a lefelau newid hinsawdd arferol.

Bydd tywod wedi’i fewnforio yn ffurfio’r brif amddiffynfa fôr ar hyd y rhan hono’r arfordir, wrth fod yn draeth deniadol i’w fwynhau beth bynnag fo’r llanw. Mae’r gwaith arfordirol hefyd yn cynnwys ymestyn nifer o ollyngfeydd i lawr i’r traeth is, ac addasu grwyn cerrig wrth Harbwr Rhos. Bydd y grwyn gorffenedig yn uwch ac yn ehangach a bydd braich newydd yn cael ei hychwanegu i greu dyluniad cynffon pysgodyn. 

Fel rhan o’r prosiect, mae’r Cyngor wedi dylunio gwelliannau i’r promenâd, gan gynnwys ardaloedd chwarae, llwybr rhannu i gerddwyr a beicwyr, rhodfa glan y môr i gerddwyr yn unig, a chiosgau, llochesi ac ardaloedd picnic newydd.

Mae’r buddion cymunedol hyn yn dibynnu ar gael lle i ledu’r promenâd, sy’n golygu bod cynigion y Cyngor yn cynnwys creu system unffordd ar ran o Bromenâd y Gorllewin.

 

Dyddiad cwblhau

Fe fydd y cynllun hwn yn cymryd 12 mis i’w gwblhau, sy’n golygu y byddem yn gweithio trwy dymor yr haf un flwyddyn, pryd bynnag fyddai’r gwaith yn dechrau. Mae rhesymau ymarferol ac amgylcheddol dros gwblhau'r gwaith maethu’r traeth dros yr haf hefyd, fel bod angen môr tawel, ac osgoi tymor adar gaeafu. Rydym yn disgwyl i’r promenâd newydd fod yn barod ac ar agor yn ystod haf 2023.

Cyllid

Cyfanswm cost y prosiect yw £20m. Mae Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol Llywodraeth Cymru yn ariannu 85% o’r gwaith, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu’r 15% arall.


wg-ccbc

Dros y tudalennau nesaf, fe welwch chi’r manylion am y:
  • gwelliannau sy’n cael eu cynllunio ar gyfer y promenâd, sydd angen lled ychwanegol
  • pryderon diogelwch ar Bromenâd y Gorllewin
  • dewisiadau y bu i ni eu hystyried ar gyfer y ffordd i greu promenâd lletach
  • cynllun a fwriedir ar gyfer y ffordd
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 9 Medi 2022.

 




Tudalen nesaf

end content