Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Celf a Diwylliant


Summary (optional)
start content

Nodwedd gelf gyhoeddus ger Gerddi Combermere

Bydd nodwedd gelf fertigol yn borth i ddenu ymwelwyr o’r traeth a glan y môr i ganol tref Llandrillo-yn-Rhos. Bydd yn cael ei ddylunio i gael ei weld o Bromenâd y Gorllewin, Ffordd Rhos a chyffordd promenâd Rhos. Bydd y nodwedd celf unigryw yn adlewyrchu hanes a diwylliant y dref. 

Palmentydd i Gydnabod Elfennau Pwysig

ac1Byddwn yn parhau â’r palmentydd i gydnabod elfennau pwysig sy’n rhan boblogaidd o bromenâd Bae Colwyn. Bydd y themau a thestunau cerdyn post yn adlewyrchu ac yn tynnu sylw at elfennau allweddol o hanes a threftadaeth Llandrillo-yn-Rhos. Bydd codau QR yn annog pobl i ddysgu mwy.

Ffynnon Ddŵr

ac2Byddwn yn cadw dwy elfen hanesyddol pwysig o’r promenâd. Bydd y ffynnon ddŵr, sydd ar hyn o bryd i'r de o Harbwr Llandrillo-yn-Rhos, yn cael ei hadleoli i'r parth gweithgareddau newydd. Os yn bosibl, ein nod fydd darparu cyflenwad dŵr newydd i’r ffynnon. Byddwn hefyd yn cadw’r cafn dŵr o droed Arglawdd Cayley.

Polion Totem Diwylliannol

Bydd polion totem pren yn cael eu gosod gyda phaneli gwybodaeth a gwaith celf wedi’i gerfio yn unigryw i’r cynllun.  Bydd y rhain yn creu canolbwynt mewn amrywiol leoliadau ar hyd y promenâd. 

Llochesi Celf

Byddwn yn gweithio’n agos gydag Oriel Môr i ddefnyddio’r llochesi newydd fel orielau celf ‘dros dro’ a chydfynd â phrosiectau celf presennol yn yr ardal ehangach. Bydd y rhain yn fannau hyblyg sy’n golygu y gellir eu newid ar gyfer arddangosfeydd newydd. 

Hygyrchedd celf a diwylliant

ac3Bydd yr holl elfennau hyn a gwybodaeth ddefnyddiol arall am y promenâd newydd ar gael i ddefnyddwyr dall a rhannol ddall drwy dechnoleg. Mae NaviLens yn ap l lywio a labelu a ddyluniwyd yn arbennig -byddwn yn gweithio’n agos gyda’r RNIB i wneud defnydd effeithiol o’r cynllun.

 




Tudalen nesaf

end content