Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Opsiynau rhestr hir ar gyfer trefn y ffordd


Summary (optional)
start content

Rydym wedi ymchwilio i wahanol ddatrysiadau er mwyn lledu’r promenâd i’r fath raddau sy’n ofynnol i ddarparu gwelliannau diogelwch a buddion ehangach y prosiect.

1. Lledu’r promenâd i gyfeiriad y traeth

Yng nghamau blaenorol Prosiect Glan Môr Bae Colwyn, rydym wedi lledu’r promenâd trwy adeiladu morglawdd newydd ar y traeth. O ganlyniad i hyn crëwyd promenâd uwch a lletach. Yn y rhannau hynny, roedd y promenâd yn arfer bod yn is ac yn fwy agored. Nid dyna’r achos yn Llandrillo-yn-Rhos, ac ni allem gyfiawnhau’r gost uchel o adeiladu morglawdd newydd a oedd yn ddi-angen.

2. Cael gwared ar y lleoedd parcio ar hyd ochr arglawdd y promenâd

long1Ffordd arall o ledu Promenâd y Gorllewin a datrys y broblem o groesi’n ddiogel, yw cael gwared ar y lleoedd parcio paralel ar hyd gwaelod Arglawdd Cayley. Byddai hyn yn arwain at golli llawer o leoedd parcio mewn ardal lle mae lleoedd parcio eisoes yn brin yn ystod cyfnodau prysur.Byddai cael gwared ar y lleoedd parcio hyn yn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n gyrru o amgylch yr ardal breswyl y tu ôl i Arglawdd Cayley yn chwilio am leoedd i barcio, gan arwain at broblemau llif traffig a thrafferthion parcio. Byddai ymwelwyr y traeth hefyd yn gorfod cerdded yn bell yn ôl ac ymlaen i’w ceir.

3. Adeiladu wal gynnal fawr ar hyd Arglawdd Cayley

long2Yn ystod ymgynghoriadau cynharach, awgrymodd rhai pobl y dylid adeiladu wal gynnal fawr ar hyd troed Arglawdd Cayley. Byddai hyn yn helpu i ledu ac yn cadw traffig dwy ffordd ar hyd Promenâd y Gorllewin. Bu i ni ymchwilio’n fanwl i’r opsiwn hwn, ond nid oedd yn ateb ymarferol. Byddai cost adeiledd mor fawr yn defnyddio’r holl gyllid sydd ar gael ar gyfer buddion ehangach, sy’n golygu na fyddem yn gallu fforddio’r meysydd chwarae, llochesau, seddi a phlanhigion. Pan aethom i archwilio’r safle, daethom o hyd i flwch cylfat mawr 2.1m x 2.1m sy’n rhedeg o dan droed yr arglawdd - ni fyddai’n ymarferol adeiladu adeiledd cynnal mor fawr mor agos at y cylfat hwn.

4. Codi lefel y promenâd i fyny ochr Arglawdd Cayley

Opsiwn arall a awgrymwyd i ni yn ystod yr ymgynghoriad oedd codi lefel y ffordd i fyny yn erbyn yr arglawdd. Bu i ni ymchwilio i hyn, ond byddai codi’r ffordd yn ddigon uchel i ennill digon o led yn creu llethrau (cwympiadau croes) ar y briffordd a’r promenâd a fyddai’n rhy ddifrifol.

5. Cau Promenâd y Gorllewin i bob traffig trwodd

long3Yr opsiwn gwreiddiol a ffafriwyd oedd symud yr holl draffig i fyny i Bromenâd Cayley, gyda lleoedd parcio cyfyngedig ar gael ar bob pen i Arglawdd Cayley. Er y byddai’r opsiwn hwn yn darparu mwy o le i’r buddion ychwanegol, roedd anfanteision ynghlwm wrth y cynllun hwn. Byddai’r gosodiad hwn yn lleihau nifer y lleoedd parcio sydd ar gael ger y traeth ac yn symud pob traffig trwodd i’r ddau gyfeiriad at Bromenâd Cayley. Ni wnaethom barhau â’r opsiwn hwn er mwyn medru dod o hyd i well datrysiad cyfaddawd.

 




Tudalen nesaf

end content