Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybrau Hanesyddol y Gogarth


Summary (optional)
start content

Waw! Am hanes sydd i'r ardal hon.... Mae’r tirlun yn gyfoethog o ran olion hanesyddol, o fwyngloddiau copr yr Oes Efydd i'r Ysgol Fomio o’r Ail Ryfel Byd, dewch i archwilio.... Mae dwy daith yn cychwyn o gopa’r Gogarth (yn union wrth y maes parcio) a gellir eu cyfuno i wneud taith hirach. Cofiwch gadw llygad am y golygfeydd godidog o Fae Lerpwl, mynyddoedd y Carneddau, y Fenai ac Ynys Môn.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Tir: Llwybrau gwelltog, traciau a ffyrdd. Mae’r llwybrau’n serth mewn mannau, felly rydym yn argymell esgidiau a bŵts cerdded da
  • Pellter: Mae Llwybr A yn 4.2 milltir/6.7 km; Mae Llwybr B yn 3.2 milltir/5.2 km. Caniatewch 2½ awr ar gyfer Llwybr A, a thua 2 awr ar gyfer Llwybr B
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn dan reolaeth neu ar dennyn; mae defaid a geifr yn pori’n rhydd ar y pentir
  • Lluniaeth: Ar gael yng Nghanolfan y Copa, sydd ar agor bob dydd rhwng y Pasg a diwedd mis Tachwedd, ar benwythnosau’n unig tu allan i’r tymor gwyliau. Mae’r Caffi Gorffwys a Diolch (ar agor trwy’r flwyddyn ag eithrio ambell ddyddiad) ar ben pellaf y pentir, ar Gylchdro’r Gogarth
  • Graddfa’r daith gerdded: hawdd / cymedrol Cyfeirnod
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen.

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

  • Gyda thrên: Mae yna orsaf yn Llandudno. Rhif Ffôn: 0845 7484950. www.nationalrail.co.uk
  • Gyda bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info  
  • Gyda Char: Dilynwch yr A55/A470 i Landudno, yna dilynwch yr arwyddion am Barc Gwledig y Gogarth. Mae maes parcio talu ac arddangos ar y copa
  • Gyda thram: Mae Tramffordd Fictoraidd y Gogarth yn mynd yn ddyddiol rhwng y Pasg a diwedd Hydref. Ffoniwch 01492 879306

Byddwch yn barod!

  • Wrth gerdded ar hyd ffyrdd, cerddwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl
  • Gall y pentir prydferth hwn fod yn agored iawn, a gall y tywydd wrth y copa fod yn wahanol iawn i’r amodau ar lefel y môr. Mae esgidiau a dillad addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn
  • Gwiriwch ragolygon y tywydd 
  • Y Côd Cefn Gwlad

Mapiau 

end content