Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybrau Copa'r Gogarth

Summary (optional)
Y Gogarth, pentir calchfaen hardd, yn morio mewn hanes, daeareg, archeoleg, natur a golygfeydd...
start content

Mae’r tair taith i fyny'r copa yn mynd â chi yn syth o dref Fictoraidd Llandudno i ddarganfod y Gogarth. Mae arwyddion clir i ddangos y llwybrau gyda disg logo Llwybr y Copa.

Lawrlwytho'r taflen a map ar gyfer y llwybrau.  (PDF, 3.8MB)

Gwybodaeth am y llwybrau

Llwybr Gerddi Haulfre

  • Llwybrau: Llwybrau gwelltog, traciau a ffyrdd. Mae’r llwybrau’n serth mewn mannau, felly rydym yn argymell esgidiau a bŵts cerdded da
  • Pellter: 1.6km/1 milltir
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn dan reolaeth neu ar dennyn; mae defaid a geifr yn pori’n rhydd ar y pentir
  • Graddfa’r daith gerdded: Hawdd / cymedrol
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17. Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr. Gallwch lawrlwytho cerdyn y llwybr ar gyfer y daith hon isod, ond rydyn ni wastad yn argymell mynd â map OS yn ychwanegol at unrhyw daflen

Llwybr y Fach

  • Llwybrau: Llwybrau gwelltog, traciau a ffyrdd. Mae’r llwybrau’n serth mewn mannau, felly rydym yn argymell esgidiau a bŵts cerdded da
  • Pellter: 2.4km/1.5 milltir
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn dan reolaeth neu ar dennyn; mae defaid a geifr yn pori’n rhydd ar y pentir
  • Graddfa’r daith gerdded: Cymedrol

Llwybr Igam Ogam

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

  • Gyda thrên: Mae yna orsaf yn Llandudno. Rhif Ffôn: 0845 7484950 www.nationalrail.co.uk
  • Gyda bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33 www.travelinecymru.info
  • Gyda Char: Dilynwch yr A55/A470 i Landudno, yna dilynwch yr arwyddion am Barc Gwledig y Gogarth. Mae maes parcio talu ac arddangos ar y copa
  • Gyda thram: Mae Tramffordd Fictoraidd y Gogarth yn mynd yn ddyddiol rhwng y Pasg a diwedd Hydref. Ffoniwch 01492 879306

 Byddwch yn barod!

  • Wrth gerdded ar hyd ffyrdd, cerddwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl
  • Mae esgidiau a dillad addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn
  • Gall y pentir hardd hwn fod yn agored iawn, a gall amodau'r tywydd ger y copa fod yn wahanol iawn i amodau'r tywydd ar lefel y môr
  • Gwiriwch ragolygon y tywydd 
  • Y Cod Cefn Gwlad

Teithiau cerdded ychwanegol ar Y Gogarth i chi ddarganfod

end content