Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod Grid: SH 779782

Mae'r coetir prydferth yma'n gorwedd rhwng Parc Bodlondeb a glan ddeheuol Aber Conwy. Mae cysylltiadau llwybr troed da iawn o'r dref a hefyd nifer o lwybrau troed drwy'r goedwig. Mae toriadau yn y canopi ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol o'r goedwig yn rhoi golygfeydd gwych i chi dros yr aber ac ar draws y môr tuag at y Gogarth. Bydd llyfryn cysylltiedig (gweler islaw) o gymorth i chi chwilio'r ardal, tra'n darparu gwybodaeth ar ei hanes a'i bywyd gwyllt.

Mae Bodlondeb yn ardal 7.6 ha o goetir cymysg sy'n gorwedd ar graig asidig. Mae derw cynhenid, bedw, ac ynn yno ond yn y gorffennol plannwyd llawer o goed ffawydd, Pinwydden yr Alban a derw bytholwyrdd. Mae llawer o goed sycamorwydden yn y goedwig gyda choed ceirios ac ywen hefyd yn tyfu yno. O fewn y coed mae nodwedd anarferol, sef lôn gelyn.

Mae'r coed yn gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar a glöynnod byw, yn cynnwys:

  • Gwiwerod llwyd
  • Llwynogod
  • Bwncath
  • Cudyll Glas
  • Cnocell Y Cnau
  • Sgrech Y Coed
  • Glesyn cyffredin, brych y coed ac weithiau'r iâr fach dramor

Mae rhaglenni gwaith rheoli'r safle yma'n cael eu llunio'n flynyddol ac yn cael eu gweithredu gan y warden Cefn Gwlad, lleoliadau myfyrwyr a wardeiniaid gwirfoddol.

Cwrs Cyfeiriannu Bodlondeb

Mae cwrs cyfeiriannu parhaol wedi'i sefydlu i chi ei fwynhau yn y warchodfa natur. Gallwch lawrlwytho'r cyfarwyddiadau isod: 

Taflen Cyfeiriannu Bodlondeb (Ffeil PDF)

Rheolaeth Cyfeiriannu Bodlondeb (Ffeil PDF)

Taflen Atebion Cyfeiriannu (Ffeil PDF) 

end content