start content

Rhaglen Dros Dro o Arddangosfeydd

Pobl Conwy – Rhagfyr – Mehefin 2020

Cynhaliwyd sioe deithiol a wahoddodd bobl o bob cwr o Sir Conwy i rannu hanesion am y bobl yn eu cymunedau. Mae’r arddangosfa hon yn defnyddio portreadau â chamera a hanesion llafar i ddathlu rhai o’r bobl a gyfwelwyd ar gyfer y prosiect.

Canolfan Ddiwylliant Deirieithog

Fel rhan o arddangosiadau’r Ganolfan Ddiwylliant, mae yna fideos hygyrch sy’n cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, is-deitlau hawdd eu darllen a throsleisiadau disgrifiadol.

 

end content