Caiff deiliaid bathodyn glas barcio am ddim yn y mannau parcio anabl dynodedig ym meysydd parcio talu ac arddangos Conwy
Rhaid i chi arddangos eich Bathodyn Glas a’r cloc amser, os yw hynny’n berthnasol.
Bydd angen i ddeiliaid Bathodyn Glas sy’n parcio mewn man parcio cyffredinol brynu tocyn a'i arddangos.
Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim mewn unrhyw fae parcio mewn ardaloedd talu ac arddangos ar y stryd. Mae rhai baeau parcio dynodedig i’r anabl ar The Parade yn Llandudno ac ar Bromenâd Bae Colwyn.
I gael rhagor o fanylion am hawliau a chyfrifoldebau, ewch i llyw.cymru
Bathodyn Glas