Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Talu am Wahanol Anfonebau Debyd Uniongyrchol - Gwahanol Anfonebau

Debyd Uniongyrchol - Gwahanol Anfonebau


Summary (optional)
Does dim dwywaith mai Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd fwyaf effeithlon ac economaidd o dalu Anfonebau 
start content

Mae yna ddewis o dri dyddiad i'w talu (sef yr 16eg, 20fed a'r 28ain o bob mis).  Mae'n hawdd ei drefnu ac fe gewch chi warant ysgrifenedig o ad-daliad ar unwaith pe bai taliad anghywir yn cael ei wneud.  Does ryfedd felly mai'r dull talu hwn sy'n cael ei ffafrio gan dros hanner o drethdalwyr yr Awdurdod. Mae yna dair ffordd i chi wneud cais am gael talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Dewiswch yr un sydd orau i chi.

  • Cais dros y Rhyngrwyd: Gwahanol Anfonebau - Cais Debyd Uniongyrchol. Fe gewch chi fanylion eich trefniadau talu drwy Ddebyd Uniongyrchol o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg cyn y bydd y rhandaliad cyntaf yn ddyledus.
  • Gwneud cais am ffurflen drwy'r post: Ffoniwch ni ar 01492-576610 neu ysgrifennwch atom i ofyn am ffurflen Debyd Uniongyrchol.  Ar ôl i chi ei llenwi, anfonwch hi i: Gwahanol Anfonebau, Blwch Post 1, Conwy LL30 9GN. Fe gewch chi gadarnhad o symiau a dyddiadau'r taliadau maes o law.
  • Drwy ymweliad personol: Galwch draw yn un o Swyddfeydd Ardal y Cyngor i lenwi ffurflen. Unwaith eto, ar ôl iddi gael ei phrosesu, fe gewch chi gadarnhad o'r symiau a'r dyddiadau y maent yn ddyledus.

Gwahanol Anfonebau
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
end content