Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Talu am Wahanol Anfonebau Talu'r Awdurdod (Gwahanol Anfonebau) - Cwestiynau a Holir yn Aml

Talu'r Awdurdod (Gwahanol Anfonebau) - Cwestiynau a Holir yn Aml


Summary (optional)
start content

Atebion i gwestiynau sydd gennych efallai ynglŷn â thalu Mân Ddyledion. Mae'r rhain yn cynnwys: Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu, newid dyddiad eich taliad, beth fydd yn digwydd i chi os na fyddwch yn talu. A sut i dalu am wahanol wasanaethau.

C. Pa gyfeirnod ydw i'n ei roi wrth wneud taliad neu wrth gysylltu â'r Adain Incwm?

A. Mae gan bob anfoneb gyfeirnod rifol 9 digid. Dim ond y cyfeirnod 9 digid sy'n dechrau â'r rhifau isod sydd angen i chi eu dyfynnu.

21*******
23*******

24*******
29*******

C. Fedra i ddim talu'r lwmp swm, be fedra i wneud?

A. Cysylltwch â'r Adain Incwm i drafod trefn dalu addas.

C. A godir mwy am dalu gyda Debyd Uniongyrchol neu mewn rhandaliadau?

A. Na, ni chodir mwy am dalu gyda Debyd Uniongyrchol neu mewn rhandaliadau

C. Rydw i wedi llofnodi cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ond 'dwi wedi cael anfoneb. Ydw i dal yn ei dalu?

A. Os oes gennych gyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol, dylai eich anfoneb nodi mai er gwybodaeth yn unig y mae hi neu dylai gynnwys dyddiadau a symiau'r Debyd Uniongyrchol i'w gasglu.

C. Oes yna isafswm rhandaliad y gwnewch chi ei dderbyn?

A. Bydd swm y rhandaliadau'n dibynnu ar faint sydd arnoch; fodd bynnag, nid ydym yn derbyn rhandaliadau is na £5.00

C. Rydw i wedi cael Gwŷs a dwi'n anghytuno efo'r honiad, be ddylwn i ei wneud rŵan?

A. Rhaid i chi roi amddiffyniad trwy lenwi'r ffurflen sydd yn y pecyn oddi wrth y Llys. Nid yw methu talu'r swm sy'n ddyledus yn amddiffyniad.

C. Codwyd arnaf am wasanaeth dydw i heb ei gael, efo pwy ydw i'n cysylltu?

A. Cysylltwch â'r Adain Incwm ar unwaith fel y gellir pasio'r mater i'r adran berthnasol ac y gellir gohirio unrhyw gamau adfer pellach nes bo'r mater wedi'i ddatrys.

C. Os ydw i eisiau talu nifer o anfonebau ar yr un amser, oes raid i mi ysgrifennu siec wahanol ar gyfer pob un?

A. Na, mae un siec yn iawn ond mae'n rhaid i chi gynnwys ar gyfer beth mae'r taliad trwy ysgrifennu'r manylion ar gefn y siec neu roi'r manylion yn sownd i'r taliad.

C. Oes rhaid talu taliad ychwanegol yn Swyddfa'r Post?

A. Na, gallwch dalu gydag arian parod neu siec yn rhad ac am ddim ond mae'n rhaid i chi gael eich anfoneb efo chi wrth wneud taliad.

end content